Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Aelod o Ddesg Wasanaeth TG Ysgolion Gwynedd
•Pwynt cyswllt cyntaf y gwasanaeth dros y ffôn, e-bost, hunan wasanaeth, rhithiol neu wyneb yn wyneb
•Cyfrifol am dderbyn, ymateb, datrys ac esgoli ceisiadau am gymorth technoleg
•Cofnodi, diweddaru a pherchnogi digwyddiadau sydd wedi eu dyrchafu i’r Ddesg Wasanaeth
•Cynghori athrawon neu staff ategol ysgolion ar ddefnydd ac/neu newidiadau i gyfarpar a systemau digidol a ddefnyddia’r ysgol
•Meddu a’r sgiliau ac arbenigedd angenrheidiol i ddadansoddi problem a’u datrys ble bo hynny’n bosib
•Parhau fel pwynt cyswllt y cwsmer gan hwyluso datrysiad i’r broblem gan arbenigwyr eraill yn y gwasanaeth pe nad oes modd ei ddatrys fel rhan o’r cyswllt cyntaf
•Drwy weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd gwella’r gwasanaeth drwy ddefnydd o dechnoleg.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Bod yn barod i gynghori eraill neu hyfforddi aelodau eraill o’r tîm am eitemau technegol.
Cyllid:
•Bod a mewnbwn i waith adolygu prosesau er mwyn canfod ffordd o weithio’n fwy cost-effeithiol.
Data/Offer/Meddalwedd:
•Bod yn ymwybodol o’r safonau a amlygir yn Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd
•Rhoi cefnogaeth cyswllt cyntaf ar gyfer pob agwedd o ddarpariaeth digidol sy’n hanfodol i waith beunyddiol yr ysgolion; gan ddadansoddi problemau, eu datrys neu eu hosgoi
•Yn achlysurol, gall sefyllfa godi ble bydd angen ymweld a’r broblem yn uniongyrchol ar safle yn yr ysgol
•Gall gyfrannu at waith ffurfweddu cyfarpar pan fo hynny’n briodol gan arwain at ychydig o waith corfforol
•Gall fod yn cysylltu’n rhagweithiol â’r ysgolion i’w hysbysu o newidiadau ac/neu broblemau
•Gall gysylltu gyda chyflenwyr allanol i ddatrys materion
•Arwain drwy esiampl drwy lynu at safonau diogelwch seibr ym mhob agwedd o’r swydd.
Prif ddyletswyddau
Gwneud Penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Ymchwilio i ddatblygiadau newydd yn y maes o ddarpariaethau digidol i ysgolion fel rhan o ddysgu parhaus gan gynghori’r Rheolwr Gwasanaethau Digidol a’r darganfyddiadau
•Mynychu hyfforddiant sydd wedi ei drefnu gan yr uned a cyfrannu mewn sgyrsiau sy’n mesur anghenion hyfforddiant y gwasanaeth, gall yr hyfforddiant fod yn ddigwyddiad rhithiol, mewnol neu allanol
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun
•Rhoi cymorth technegol mewn meysydd penodol i eraill yn y tîm
•Gall fod a mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch
•Gall fod a mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi
•Gwneud penderfyniadau ar y ffordd gorau i ddatrys materion a all gael effaith ar nifer o ddefnyddwyr
•Gall gyfrannu at weithdrefnau mesur perfformiad drwy baratoi data ac ystadegau rheolaethol ar gyfer eu cyflwyno’n fewnol yn y Gwasanaeth TG, neu ar gyfer adroddiadau ehangach.
Cyfathrebu:
•Ymdrin â nifer fawr o alwadau, yn aml iawn dan bwysau mawr i ddelio gyda galwadau sy’n rhoi gwybod am faterion sy’n rhwystro nifer fawr o ddefnyddwyr rhag gwneud eu gwaith
•Angen medru ymdrin yn gydymdeimladol a defnyddwyr sy’n cysylltu i adrodd am broblem neu fethiant
•Rheoli disgwyliadau cwsmeriaid
•Rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf yn gryno ac yn ffeithiol i ddefnyddwyr ar statws eu problem
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ar draws yr ysgolion, gan gynnwys Penaethiaid
•Sylw trwyadl i reoli’r galwadau oddi fewn i’r system rheoli digwyddiadau
•Dadansoddi problemau yn drwyadl
•Yn deall y broblem a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn ei datrys neu ei gyfeirio i’r man cywir fel bod modd ei ddatrys
•Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr.
Arall:
•Yn medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd
•Yn medru defnyddio offer a thechnegau cydnabyddedig
•Yn medru datrys tasgau safonol ond yn meddu ar sgiliau a gwybodaeth eang i ddadansoddi a datrys problemau nad ydynt yn rhai safonol
•Yn ddefnyddiwr hyderus o ystod eang o systemau cyfrifiadurol ac yn chwim i ddysgu am systemau newydd
•Y gallu i redeg adroddiadau syml o systemau safonol e.e. creu ymholiad syml mewn SQL
•Yn medru gweithio ar sawl tasg yr un pryd
•Yn medru dadansoddi tueddiadau ac adnabod problemau sy’n codi dro ar ôl tro
•Cyfrifol am adnabod risgiau a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt, neu eu dyrchafu ar gyfer sylw pellach
•Arwain drwy esiampl drwy weithredu oddi fewn i bolisïau Seibr Ddiogelwch y Cyngor a dyrchafu unrhyw ddigwyddiad neu wendid seibr drwy sianelau adrodd y Gwasanaeth TG ar ei union.
Cyffredinol:
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.