ADDYSG
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Dyddiad Cychwyn: Medi 2025
Uwch Gymhorthydd Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio - Lefel 4 - Parhaol
Dwy swydd (Ardal Meirionnydd, ond bydd gofyn i’r unigolion weithio ar draws Gwynedd a Môn hefyd)
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad o gefnogi a gweithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â dyletswyddau dysgu a chefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 18 oed sydd ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio mewn ysgolion a chanolfannau arbenigol. Mae profiad o gefnogi disgyblion ag anawsterau niwroamrywiol yn hanfodol ar gyfer y swydd, mae cymwysterau megis ELKLAN, Ymyrraeth Diogelwch yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 – 17 (sef £21,142 - £22,935) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20fed o FEHEFIN 2025
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.