Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo Rheolwr y Gwasanaeth i sicrhau bod y tîm(au) y mae’n arwain yn cyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
•Arwain y tîm yn draws sirol, er mwyn darparu gwasanaethau a chefnogaeth i gynorthwyo pobl fydd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd yn effeithiol ac effeithlon yn unol â deddfau perthnsol, polisïau a threfniadau’r Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff y Tim Digartrefedd
•Rheolaeth o’r cytundebau cefnogaeth mewn datblygiadau Llety â Chefnogaeth drwy’r Sir
•Rheolaeth o’r Hosteli Digartref
•Offer gweithio personol (dros £500)
•Arian parod (cannoedd)
Prif ddyletswyddau
Cynorthwyo Reolwr y Gwasanaeth i:
•Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
•Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
•Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
•Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
•Cymell a/neu mentora’r tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Cynorthwyo i hwyluso datblygiad personol aelodau’r tîm
•Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r tîm i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.
•Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tîm rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
•Cyfrannu a gwneud penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Sicrhau, drwy annog a chymell bod staff y tîm yn perchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd
•Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
•Sicrhau bod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
•Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
•Datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rŵan ac i’r dyfodol
PRIF DDYLETSWYDDAU
•Cyfrifoldeb am gydlynu ac arwain gwaith dydd i ddydd y tîm Digartrefedd a Chefnogaeth.
•Sicrhau bod y tîm yn gweithredu mewn modd cadarn, rhesymol a phroffesiynol wrth gynghori neu weithredu ar geisiadau gwasanaeth gan sicrhau ethos o gydymdeimlad a’r awydd i helpu i wella amgylchiadau byw unigolion o theuluoedd bregus.
•Sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn briodol a chyflawn i faterion digartrefedd.
•Edrych am gyfleoedd i gyflwyno, ac arwain ar brosiectau strategol digartrefedd eraill a fyddai’n gwella ein darpariaeth gwasanaeth digartrefedd yng Ngwynedd.
•Sefydlu a chynnal cytundebau darparu cefnogaeth mewn datblygiadau “Llety â Chefnogaeth” newydd yn y Sir.
•Sicrhau darpariaeth briodol o opsiynau sector breifat (a thai eraill a brydlesir gan ein partneriaid cyhoeddus) er mwyn gallu cartrefu unigolion sy’n ddigartref am gyfnodau dros dro a pharhaol.
•Rheoli tenantiaethau a roddir gan y Cyngor i unigolion wedi eu cartrefu mewn Llety â Chefnogaeth.
•Monitro bod y cytundebau darparu cefnogaeth yn gweithio yn effeithiol.
•Darparu arweiniad technegol a phroffesiynol am faterion Digartrefedd a Phrosiectau Strategol yn ôl y galw i swyddogion o fewn y tîm, i’r Rheolwr, Pennaeth Adran ac Aelodau yn ôl y galw.
•Gweithredu fel y swyddog arweiniol ar faterion technegol a phroffesiynol materion Digartrefedd a Phrosiectau Strategol o fewn y Cyngor.
•Cynorthwyo a chefnogi’r Rheolwr i sicrhau fod cynlluniau strategol yn ymwneud â’r maes yng Ngwynedd yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac effeithlon.
•Sicrhau bod y tîm Digartrefedd yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a pholisïau perthnasol.
•Mynychu cyfarfodydd, Pwyllgorau, Is-Bwyllgorau neu Weithgorau yn ôl yr angen, gan gynnwys cyd-gysylltu ag asiantaethau a chynghorau eraill yn berthnasol i ddyletswyddau digartrefedd yr Adran.
•Paratoi adroddiadau, gwybodaeth ystadegol a chyllidol yn ôl yr angen.
•Sicrhau bod tîm yn gweithredu o fewn y cyllidebau sydd ar gael iddynt redeg y gwasanaeth a bod yn effro i’r angen i sicrhau’r gwerth ariannol gorau pob amser gan geisio adnabod cyfleon i wella effeithlonrwydd ariannol y tîm, Gwasanaeth ac Adran.
•Cydweithio gydag eraill ar brosiectau penodol yn ymwneud â materion digartrefedd a thai yn gyffredinol gan gynnwys cefnogi timau eraill i gyflawni eu pwrpas hwythau.
•Cefnogi’r Rheolwr a’r Pennaeth Adran i gyflawni gwasanaethau a phrosiectau yng Nghynllun Gweithredu Tai y Cyngor.
•Creu perthynas a phartneriaethau er mwyn hybu cydweithio agos gyda chyrff cyhoeddus a trydydd sector eraill sy’n weithredol yn y maes digartrefedd/tai.
•Adnabod, adolygu a monitro’n rheolaidd unrhyw risgiau Iechyd a Diogelwch i staff a/neu gleientiaid
•Sicrhau bod gan y tîm systemau technoleg gwybodaeth effeithiol ac effeithlon i hwyluso darpariaeth gwasanaeth gan geisio symud i systemau gweithio digidol.
•Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill yn gysylltiedig â’r gwasanaeth Tai cyhoeddus fel aelod o dîm rheoli’r Gwasanaeth.
•Cyfrannu tuag at sicrhau llwyddiant, ffyniant a datblygiad yr Adran Tai ac Eiddo gan gynnwys cyfrannu mewn cyfarfodydd rheolwyr/arweinyddion tîm yr Adran.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin.
Amgylchiadau arbennig
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol o dro i dro