Swyddi ar lein
Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu
£36,124 - £42,708 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28366
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Tim Trobwynt
- Dyddiad cau:
- 23/05/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £36,124 - £42,708 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu
Gwasanaeth: Plant - Tîm Trothwy
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd:Ydych chi...
- Am gyfrannu i gyflogwr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a’r Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person (ynghlwm).
Cyflog : S4 / PS1 / PS2 (yn ddibynol ar brofiad)
L1 (Glas Weithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu) – S4 (pt 26-28) £36,124 - £37,938
L2 (Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu) – PS1 (pt 29-31), £38,626 - £40,476
L3 (Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu Arweiniol) – PS2 (pt 31-33), £40,476 - £42,708
Galluogir i aelod staff fynd heibio trothwyon cyflog yn unol a phrofiad a pherfformiad.
Gweler y Pecyn Gwybodaeth – Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a’r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni:
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenan Medi Hughes ar 01286679369
Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 23/05/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Y gallu i gyfathrebu'n dda
Yn gweithio fel ymarferydd annibynnol
Gallu cymell ei hun
Ymrwymiad i weithio i hyrwyddo lles plant
Gallu gweithio'n unigol ac fel aelod o dîm
Brwdfrydedd i ddysgu am ystod o ddulliau ymyrryd ac i'w rhoi ar waith
Agwedd bositif tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Yn ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol ac yn deall gwerth a phwysigrwydd goruchwyliaeth a'r gallu i dderbyn goruchwyliaeth.
Gallu gweithio dan bwysau, ar eich liwt eich hun gan ddangos cadernid a phendantrwydd.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig, Gweithiwr Iechyd neu Weithiwr Gwasanaeth Prawf.
L2 & L3 Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Dymunol
Profiad Arbenigol Ychwanegol mewn Ymyriadau sy'n canolbwyntio ar Deuluoedd.
Profiad o weithio gyda thimau Cam-ddefnyddio Sylweddau Oedolion ac Iechyd Meddwl
Profiad o ymarfer ar sail tystiolaeth ac ymyriadau.
Cyfweliadau ysgogol / Sgiliau cwnsela
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio gyda theuluoedd ac unigolion sy'n dangos amrediad o anghenion cymhleth (heriau iechyd meddwl, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol, trais domestig) a dangos gallu i greu cydberthynas ac adeiladu perthnasau effeithiol.
Profiad o gynnal neu gyfrannu at asesiadau, cynllunio gofal ac adolygiadau gyda chleientiaid ag anghenion cymhleth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad o ddulliau ar sail tystiolaeth, gan gynnwys ymarfer systemig, theori dysgu cymdeithasol, ymlyniad a cholled, perthynas ac ymyraethau ar sail cryfder.
Gwybodaeth am ddiogelu oedolion, deddfwriaeth gofal plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant lleol, a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn, capasiti rhiantu a ffactorau risg ac amddiffynnol
Gallu meithrin perthnasau adlewyrchol, cefnogol yn canolbwyntio ar ganlyniadau gyda merched a ystyrir i fod mewn perygl o fod yn feichiog ac i'r plentyn gael ei dynnu oddi arnynt sawl tro, tra'n cynnal ffiniau.
Gallu dylanwadu ac ysbrydoli ar draws disgyblaethau proffesiynol gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymarferion i wella deilliannau i deuluoedd bregus.
L2
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
L3
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Dyfeisio a gweithredu cynlluniau i fodloni anghenion plant.
Gallu ffurfio a chyflwyno pecynnau cefnogaeth a grymuso creadigol, wedi'u teilwra i fodloni anghenion yr unigolyn.
Tystiolaeth o ymwybyddiaeth aml-asiantaethol a sut fydd gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ac yn cyflawni amcanion yr unigolyn.
Cynnal perthnasau cefnogol gyda chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol ac asiantaethau allanol.
Gallu ymgysylltu gyda merched (a’i partneriaid os yn addas) a cynnal perthnasau.
Dangos sut mae gwybodaeth yn cael ei dadansoddi er mwyn gwneud penderfyniadau/argymhellion.
Coladu gwybodaeth briodol er mwyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch pecynnau cefnogi.
Gallu crynhoi a gwerthuso gwybodaeth asesiad cymhleth a defnyddio hyn i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Deall pwrpas goruchwyliaeth.
Ymwybyddiaeth o hunan-reoli proffesiynol
Dymunol
Tystiolaeth o ddatblygu neu wella gwasanaeth.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bydd yr Gweithiwr Adlewyrchu yn gyfrifol am weithredu amrediad o fesurau ymyrraeth a chefnogi fel rhan o becyn integredig o gefnogaeth iechyd, therapiwtig a chymdeithasol.
•Bydd yr Gweithiwr Adlewyrchu yn benodol angen mynd i'r afael ag anghenion cymhleth merched/mamau (a’r tadau), drwy gefnogaeth ddwys, i alluogi newid yn eu bywydau ac, yn y pen draw, i leihau nifer y plant yn cael eu rhoi mewn gofal.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I weithio gyda phlant a’u teuluoedd yn unol a’r Ddeddf Plant 1989, Gweithdrefau Diogelu Cymru , Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Fframwaith Asesu Plant Mewn Angen a’u teuluoedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu – Lefel 1
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.
•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
Dyletswyddau Cyffredinol Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu – Lefel 2
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso
gofal a chymorth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Dyletswyddau Cyffredinol Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu – Lefel 3
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad trwy fentora.
•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl fentora.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
•Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.
Dyletswyddau Lleol
•Darparu ymyrraeth ddwys amserol i'r defnyddwyr gwasanaeth sy'n hyblyg i’w anghenion.
•Cael sgyrsiau medrus a meddylgar sy'n canolbwyntio ar ddatrys cyfyng-gyngor defnyddwyr y gwasanaeth, gan gydweithio i sefydlu canlyniadau chynaliadwy, gwneud y mwyaf o ymreolaeth, annibyniaeth ac eu cryfderau.
•Rhyddhau potensial ysgogol mewn defnyddwyr gwasanaeth sy'n aml yn hynod o amwys
•Canolbwyntio ar ganlyniadau, dulliau seiliedig ar ganlyniadau
•Helpu’r defnyddwyr gwasanaeth i herio patrymau meddwl ac ymddygiad
•Cyfrannu mewn fforymau aml ddisgyblaethol tebyg i Marac a iechyd a fforymau Cymru gyfan.
•Darparu hyfforddiant, ymgynghoriad a chefnogaeth i'r gweithlu ehangach.
•Sicrhau gwybodaeth am ddulliau cyfoes o ymyrraeth effeithiol a chynnal gwerthusiad cadarn.
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen