Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu tuag at yr agenda o wella presenoldeb disgyblion ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
•Gweithredu prosesau cyfreithiol mewn perthynas â:
•Rhybuddion Cosb Benodol (Addysg).
•Paratoi achosion i'w herlyn yn y llysoedd.
•Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol
•Gorchmynion Mynychu Ysgol
•Cynorthwyo efo’r broses o weithredu’r broses sy’n gysylltiedig â materion cyflogaeth plant
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
PRESENOLDEB
•Cydweithio ag ysgolion i fonitro presenoldeb yn ysgolion eu hardal, a gweithredu'n briodol yn dilyn cyfeiriadau.
•Llunio a gweithredu amrywiol strategaethau effeithiol i leihau absenoldebau.
•Paratoi a chyflwyno achosion i'r Llys pan erlynir rhieni (Deddf Addysg 1996).
•Sicrhau fod y drefn o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodol yn cael ei ddilyn yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•Gweinyddu Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol yn unol â gofynion Deddf Plant 1989.
•Paratoi adroddiadau tymhorol ar bresenoldeb a thriwantiaeth mewn ymgynghoriad ag Ysgolion ar gyfer Cyrff Llywodraethwyr.
AMDDIFFYN PLANT
•Gweithredu yn unol â gofynion Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
•Cynrychioli'r Awdurdod Addysg ar unrhyw bwyllgor rhyng asiantaethol perthnasol os yn berthnasol.
•Cynrychioli'r Awdurdod Addysg mewn cyfarfodydd strategaeth i drafod achosion unigol os yn berthnasol.
•Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd rhyng asiantaethol neu gyfarfodydd strategaeth.
•Gweithredu fel pwynt cyswllt mewn perthynas â'r maes a chynnig arweiniad i’r Ysgol.
PROSESAU ASESU DEDDF ADDYSG 1996 (Anghenion Addysgol Arbennig)
•Darparu tystiolaeth i ysgolion a'r Awdurdod Addysg.
GWAHARDDIADAU
•Bod ynglŷn â strategaeth atalion yn y maes.
•Darparu adroddiadau i’r Corff Llywodraethol.
•Sicrhau fod disgyblion a waherddir yn barhaol yn derbyn addysg o fewn yr hualau amser cenedlaethol.
CYFLOGAETH PLANT
•Sicrhau y cydymffurfir a'r Is-Ddeddfau.
•Codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o’r Is-Ddeddfau perthnasol.
•Erlyn cyflogwyr a darganfyddir yn cyflogi plant yn groes i'r Is-Ddeddfau perthnasol.
•Prosesu ceisiadau cyflogaeth plant.
•Ymweld â chyflogwyr yn achlysurol o sicrhau fod y lleoliadau gwaith yn addas.
•O fewn canllawiau pendant cynnal Asesiadau Risg ar gyfer lleoliadau profiad gwaith Blwyddyn 10 lle’n briodol.
ADDYSG GARTREF DEWISIOL
•Hysbysu Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion ynglŷn â theuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant gartref.
•Ymweld â chartrefi, ar gais Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion i fonitro sefyllfaoedd.
MATERION LLES CYFFREDINOL - MEGIS BWLIO, CYFFURIAU, ATAL TROSEDDAU.
•Bod ynglŷn â'r maes mewn ymgynghoriad ag asiantaethau eraill.
•Darparu cyngor i ysgolion, rhieni a disgyblion.
•Cynhyrchu a chyflwyno adnoddau cyfredol i addysgu plant, rhieni ac ysgolion.
•Cyfrannu i nifer o weithgareddau hybu lles.
CYSYLLTIADAU AG ASIANTAETHAU ERAILL
•Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau eraill sy'n weithredol yn y maes lles, e.e. Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Y Gwasanaethau Iechyd, yr Heddlu a.y.b.
•Ymateb yn briodol i gais o feddiant asiantaeth arall am wybodaeth ynglŷn â disgyblion.
GORFODAETH
•Gweinyddu’r broses Rhybuddion Cosb Benodol gan sicrhau gweithredoedd mewn achosion o beidio’u talu.
•Darparu cyngor i reolwyr ysgolion mewn perthynas â materion gorfodaeth.
•Cadw cofnodion achos priodol, manwl a chyfredol, a data ystadegol yn ôl yr angen.
DARPARU CYNGOR
•Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer darparu cyngor i’r ysgol.
•Gweithredu fel pwynt cyswllt i rieni a disgyblion.
MYNEDIAD/CLUDIANT
•Cynghori'r Adran Cludiant pan fo agweddau lles yn ystyriaeth.
YMWELIADAU CARTREF
•Ymweld â chartrefi disgyblion er mwyn canfod ffordd i wella canran presenoldeb.
•Ymweld â chartrefi i drafod agweddau o les y disgybl all fod yn achosi pryder i’r ysgol.
•Sicrhau cyswllt cryf rhwng ysgol a chartref.
•
CYFFREDINOL
•Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-