Pwrpas y Swydd.
• Rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth mae’r gwasanaeth yn ei wneud
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus effeithiol gan gynnwys darpariaeth i oedolion, plant a phobl ifanc , yn unigol ac mewn grwpiau, ac yn cynnwys y tasgau gweinyddol i gefnogi’r gwasanaeth i ddefnyddwyr.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff: staff wrth gefn / dros dro yn achlysurol Stoc; cyflwr stoc oedolion a phlant Offer: defnydd diogel o ddodrefn , offer cyfrifiadurol ayb Arian: Cadw cyfrifon syml’imprest’ a bancio arian. Anfonebu yn ôl yr angen
Prif Ddyletswyddau. .
• Benthyg adnoddau, casglu dirwyon a thaliadau eraill yn ymwneud a benthyg adnoddau llyfrgell
• Cadw adnoddau ar y silffoedd a chadw’r llyfrgell mewn cyflwr trefnus a thaclus.
• Cynorthwyo defnyddwyr gyda gosod ceisiadau, hysbysu defnyddwyr bod ceisiadau wedi cyrraedd, prosesu ceisiadau. Chwilio am eitemau ar gais a phrosesu eitemau.
• Cofrestru defnyddwyr newydd a diweddaru cofnodion aelodau llyfrgell.
• Cadw cyfrif syml am nifer mynychwyr i ddigwyddiadau llyfrgell.
• Cynorthwyo defnyddwyr gyda mynediad i Gyfrifiaduron Cyhoeddus, defnyddio sganiwr, llungopïwr neu adnoddau eraill cyhoeddus sydd ar gael yn y llyfrgell
• Ateb ymholiadau trwy gyfrwng ffon neu e-bost a chyfeirio ymholiadau a galwadau i aelodau eraill o staff a/neu gymryd negeseuon.
• Cynorthwyo gyda threfnu arddangosfeydd llyfrau a chynnal hysbysfyrddau cyfredol.
• Asesu cyflwr stoc llyfrgell a gyrru eitemau blêr, wedi dyddio, gwallus neu angen eu trwsio yn ôl.
• Cadw a threfnu cylchgronau a phapurau newydd cyfredol yn y llyfrgell
• Cylchdroi stoc addas rhwng mannau gwasanaeth yn ôl yr amserlen.
• Cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnwys gwasanaethau digidol, Gwasanaethau Cyngor Gwynedd ac ateb ymholiadau defnyddwyr am wybodaeth gyffredinol.
• Llogi ystafelloedd i unigolion neu grwpiau. Cymryd enwau ar gyfer gweithgareddau llyfrgell a chadw rhestr wrth gefn. Cysylltu â defnyddwyr i gadarnhau neu ganslo digwyddiadau.
• Cau ac agor y llyfrgell a gosod larwm diogelwch yn absenoldeb y gofalwr neu’r staff mewn gofal yn ôl y galw.
• Mynychu cyfarfodydd staff a hyfforddiant yn ôl yr angen a’r cyfarwyddyd.
• Delio gydag ystod eang o ddefnyddwyr llyfrgell yn cynnwys defnyddwyr a all fod yn heriol neu anodd.
• Cynorthwyo gydag arolygon a holiaduron defnyddwyr yn ôl y galw.
• Adrodd am broblemau TG
• Cael y cyfle i gymryd rhan a chefnogi amseroedd stori a chefnogi digwyddiadau a gynhelir i’r cyhoedd yn y llyfrgell.
• Mynychu sesiynau hyfforddiant a hunan ddatblygiad personol yn ôl yr angen a’r cyfarwyddid.
• Mynychu timau a gweithgorau eraill y Gwasanaeth Llyfrgell, yr Adran, neu weithgorau ar y cyd gyda gwasanaethau /asiantaethau allanol fel bo angen.
• Cyfrifoldeb am ddatblygiad staff y mae ganddo/ganddi gyfrifoldeb amdano a chyfrannu at raglen hyfforddi'r Gwasanaeth Llyfrgell.
• Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf ‘Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974’ a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor gan nodi fod hyn yn gyfrifoldeb ar bob aelod o staff wrth gyflawni eu dyletswyddau i ddefnyddwyr ac ymwelwyr.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cydymffurfio a pholisi a chanllawiau Diogelu Plant ac Oedolion Bregus Cyngor Gwynedd gan gymryd mai cyfrifoldeb pob unigolyn a gyflogir yw bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau sy’n ymwneud a materion diogelu plant ac oedolion bregus.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Bydd rhai o’r oriau gwaith syrthio yn rheolaidd ar Sadyrnau neu gyda’r hwyr ac yn unol â rota staff y Llyfrgell.
Oriau Gwaith: 27.5 awr yr wythnos sylfaenol gyda’r posibilrwydd o oriau ychwanegol yn ôl y galw . Delir yr hawl i newid patrwm oriau gweithio yn ôl gofynion y Gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gymhwyso i’r lefel briodol yng nghyswllt defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.
Y prif safle gwaith fydd Llyfrgell Caernarfon ond os bydd angen, gellir dod i drefniant dros dro ple bydd deilydd y swydd yn cyflawni dyletswyddau tebyg mewn llyfrgelloedd eraill ,a hynny o fewn ei oriau cytundebol, heb unrhyw amser neu dal ychwanegol am y gwaith hwnnw ac eithrio costau teithio.
Wythnos 1
Llun 9.00 – 12.00 (3)
Mawrth 12.00 – 4.00 (4)
Mercher 12.30 – 5.00 (4.5)
Iau 9.30 – 6.00 (8)
Gwener 9.00 – 5.00 (7.5)
Wythnos 2
Mercher 9.00 – 5.00 (7.5)
Iau 9.00 – 6.00 (8.5)
Gwener 9.00 – 5.00 (7.5)
Sadwrn 9.00 – 1.00 (4)
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.