Swydd Ddisgrifiad
Dirprwy Bennaeth
Maes Arwain i’w gytuno
(Aelod o’r Uwch Dîm Arwain)
Parhaol
Llawn Amser
Rheolwr Cyswllt: Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: L19 – L23
Nifer Gwersi Di-gyswllt: Tua 20 gwers
Dyddiad Cychwyn: Medi 1af 2025
Cyfrifoldebau Penodol i’r Maes Arwain:
• I’w cytuno
Cyfrifoldebau Fel Aelod o’r Uwch Dîm Arwain:
• Bod yn aelod llawn a gweithredol o’r Uwch Dîm Arwain
• Rhannu a chyfleu’r weledigaeth ysgol a’r cyfeiriad strategol
• Cefnogi trefn hunan-arfarnu’r ysgol drwy holi disgyblion, craffu ar lyfrau, arsylwi gwersi a theithiau dysgu
• Adnabod meysydd datblygu a llunio cynlluniau datblygu
• Gweithredu fel aelod cyswllt rhwng yr UDA a rhai adrannau
• Cyfrannu’n llawn i drafodaethau UDA ac i strategaethau a blaenoriaethau datblygol yr ysgol
• Dangos ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac i lwyddiant Ysgol Syr Hugh Owen yn
gyffredinol
• Bod yn ymwybodol o ofynion Estyn ac yn arddel y safonau addysgol uchaf
• Ymgymryd â thasgau rheoli, trefnu a gweinyddu rhesymol
• Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol parhaus
• Dirprwyo dros y Pennaeth fel bo gofyn
• Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd Llywodraethwyr gan gymryd rôl weithredol mewn cyfarfodydd is
bwyllgorau
• Llunio a/neu gyfrannu at adroddiadau yn ôl yr angen
Cyswllt Maes/Adran/Blwyddyn:
• Maes/Adran i’w benderfynu
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen Gais a Llythyr cais, i sylw’r Pennaeth, Mr Clive Thomas i:
pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Mai 14eg 2025
Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau yn yr wythnos Mai 19eg i Mai 23ain 2025
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Manyleb Person:
Medrau a Rhinweddau
HANFODOL
- Yn frwdfrydig dros addysg ddwyieithog ac yn cyfrannu’n llawn i fywyd a gwaith yr ysgol.
- Ymroddiad llwyr i roi’r profiadau gorau i ddisgyblion - eu dysgu, eu lles, a’u diogelwch.
- Yn gallu gwneud a chyfiawnhau penderfyniadau anodd a rheoli’r broses o newid yn effeithiol.
- Yn cyfathrebu yn rhwydd, yn effeithiol ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Yn onest ac yn ddibynadwy, ac yn parchu cyfrinachedd.
- Yn hyderus a brwdfrydig.
- Yn meddu ar fedrau rhyngbersonol da.
- Yn gallu cyd-weithio mewn tim.
- Yn gallu gweithio dan bwysau, gweithio’n hyblyg, a blaenoriaethu’n effeithiol.
DYMUNOL
-Yn meddu ar fedrau TGCh da (SIMS, Microsoft 365, HWB) er mwyn ysgogi a manteisio ar holl agweddau e weinyddu.
Cymhwysterau
HANFODOL
- Yn raddedig
- Statws Athro Cymwysedig
- Tystiolaeth o Ddysgu Proffesiynol Parhaus
DYMUNOL
-Dealltwriaeth o’r system addysg yng Nghymru a pholisiau Llywodraeth Cymru
- Arolygydd Cymheiriad ESTYN
- CPCP
Addysgeg
HANFODOL
- Ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog.
- Yn gallu hyrwyddo addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
- Yn gallu monitro ac arfarnu safonau cyflawniad yn effeithiol.
- Yn gallu hyrwyddo ymddygiad da adisgyblaeth drwy’r ysgol.
- Gyfa phrofiad o arwain a chefnogi athrawon gyda Addysgu a Dysgu.
- Yn ymchwilio i ymarfer gorau.
- Yn defnyddio llais y dysgwyr i ddatblygu Addysgu a Dysgu.
DYMUNOL
Profiad fel Tiwtor Athrawon ANG a RHAG
Arweinyddiaeth
HANFODOL
-Yn arwain trwy esiampl.
- Profiad o arwain ar agweddau traws ysgol.
- Yn gallu dehongli, esbonio a gwerthuso data.
- Yn gallu arfarnu yn gywir ac yn gryno.
Yn gallu sicrhau ansawdd.
- Yn gallu cynllunio gwelliant yn effeithiol.
- Yn cyflwyno yn glir ac yn effeithiol
- Yn defnyddio rheoli perfformiad yn effeithiol i arwain a hybu gwelliannau.
- Yn gallu ysgogi staff i wneud eu gorau.
- Yn gallu sicrhau a chefnogi perthynas gwaith gadarnhaol, a chynnal moral.
- Yn deall pwysigrwydd a threfniadau Dysgu Proffesiynol Parhaus.
- Profiad o weithio’n effeithiol gyda AALl a GwE
DYMUNOL
- Profiad fel Tiwtor Proffesiynol
- Profiad o arwain adran/maes neu fel Pennaeth Blwyddyn/Arweinydd Cynnydd
- Profiad ar Uwch Dîm Arwain ysgol
BLE CEIR TYSTIOLAETH
- Llythyr cais
- Ffurflen gais
- Tystlythyrau
- Cyfweliad
- Tasgau cyfweliad