Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd maent eisiau ei fyw.
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I a holl ofynion Deddf Rheoleiddio ac arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru),2016
•I ddatblygu cynllun darparu gwasanaeth ar y cyd gyda’r defnyddiwr gwasanaeth ag aelodau’r CRT
•Hyrwyddo Llesiant a hunan reolaeth
•Cefnogi eu tîm maent yn gyfrifol amdano i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig, drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth .
•Cydweithio’n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
•Cynorthwyo’r Gwasanaeth i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Rheoleiddio ac arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru),Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt.
•Cefnogi i Sicrhau bod staff yn cadw at y Codiau ymarfer a chanllawiau Arolygaeth Gofal Cymru
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid y gwasanaeth yn effeithiol.
•Cyfrifoldeb i sicrhau fod adnoddau, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.
•Cyfrifoldeb am yr adeilad, a’r reoliad
Prif ddyletswyddau
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Cefnogi i Arwain ac gweithredu ar Ddarparu gwasanaethau person canolog.
•Cefnogi unigolion i gymeryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
•Cydweithio gyda dinasyddion a’u gofalwyr i adnabod ‘Beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
•Grymuso llais yr unigolyn. Cefnogi unigolion i gael cefnogaeth adfocatiaeth.
•Derbyn cyfeiriadau am wasanaeth ar gyfer pobl hyn yn dilyn asesiad proffessiynol, sicrhau asesiad cywir cyn mynediad gan dystiolaethu y gallu i gyfarch a’r angenion
•Sicrhau bod yr ynigolyn yn ganolog ac yn ran o benderfyniadau bywyd. Ac eu bod yn byw eu bywydau fel y dymunent eu fyw.
•Llunio rhaglenni unigryw a phenodol sy’n cwrdd ag angen yr unigolyn a’u hadolygu’n gyson ac i’w monitro ac adolygu .
•Cynorthywo pobl i adnabod datrusiadau i atal dibyniaeth ac hyrwyddo annibyniaeth.
•I weithredu a’r deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
•Bod a thraws olwg, dealltwriaeth a Rheolaeth effeithiol o’r gofynion ar y gwasanaeth a bod yn barod i ymateb yn amserol er mwyn cydymffurfio a’r gofynion.
•Sicrhau bod gofal a chefnogaeth i’r safon orau ac eu bod yn cwrdd ar holl anghenion y ddeddf gofal ag Llesiant 2014
•Bydd rhaid cofrestru gydag CGC
•Cefnogi gyda’r ymateb i archwiliadau a chyd weithio gydag CIW gan Ymateb ag gweithredu ar yr hyn a ddaw i sylw
•Bod yn arweiniol yn eu rôl ac i gydweithio yn agos gyda’r rheolwr i berchnogi egwyddorion ffordd Gwynedd, ac i hyrwyddo ac annog llesiant staff
•Goruchwylio, rhoi arweiniad, ysgogi a chynghori staff i weithio fel tîm, a ci ddilyn canllawiau a pholisiau’r Cyngor, i sicrhau y gorau i fobl Gwynedd.
•I ymgyryd a bod yn ‘champion’ mewn maes arbennigol
•Cyfrannu tuag at werthuso ac adolygu safonau gwaith y tîm a’r gwasanaeth yn gyffredinol.
•Sicrhau fod y gweithlu yn cwrdd a gofynion hyfforddiant yn unol ar safonau cenedlaethol
•Cefnogi gyda’r materion disgyblu mewn ymgynghoriad gyda swyddog personnel.
•Bod yn ran o’r broses r recriwtio a penodi staff addas ar gyfer y gwasanaeth, a sicrhau dadleniad DBS priodol
•Ymgymryd a’r broses anwytho staff newydd
•Cefnogi i Sicrhau fod goruchwyliaeth a datblygiad staff yn bodoli yn unol a polisiau a chanllawiau`r Cyngor a Gwasanaeth,a bod staff yn cael ei gwerthuso`n flynyddol.
•Cefnogi a chyd weithio Sicrhau fod trefn rheoli absennoldebau yn cael ei ddilyn,
•Cyd weithio i Sicrhau bod gweithwyr yn defnyddio dulliau a dogfennau cofnodi’r Adran.
•Sicrhau bod y drefn cofrestru staff yn cael eu dilyn , yn unol a gofynnion Gofal Cymdeithasol Cymru. A bod y staff yn ymwybodol o’r cod profesiynnol.
•Delio gyda chwynion a chanmoliaethau, gan gynorthwyo’r gyd’r broses ymchwilio.
•Hyrwyddo llesiant ac hunan reolaeth
•Sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw drefniadau rheoli risg â adnabyddir mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith.
•Bod yn cyd weithio a chefnogi gyda’r yr archebu, derbyn cofnodi, dosbarthu a gwaredu meddiginiaeth yn ddiogel.
•Mesur ‘competency’ y staff gan sicrhau eu bod yn gymmwys i ddosbarthu y meddyginiaeth
•Cyd weithio i Sicrhau bod Ansawdd y gwasanaeth yn cwrdd a’r safonnau a osodir
•Cyfathebu yn agored gyda asiantaethau, teuluoedd a phob profesiynnol
•Cyd weithio ar lunio adroddiadau, yn dilyn monitro Sicrwydd Ansawdd y gwasanaeth ac bod yn atebol i’r person cyfrifol
•Cyd weithio ar ddatblygu polisiau a gweithredfnau ac adolygu polisiau perhtnasol i’r gwasanaeth.
•Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gyda Defnyddwyr Gwasanaeth,asiantaethau eraill ee awdurdod iechyd, a trydydd sector.
•Trosglwyddo Gwybodaeth a hysbysrwydd proffesiynol ac Adrannol.
•Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion yn ôl yr angen.
•Hysbysu’r Rheolwr o achosion a sefyllfaoedd sy’n codi cwestiynau polisi allweddol neu’n achosi problemau difrifol i’r Adran fel y gellir cael arweiniad arbennig neu ddatblygu polisi penodol newydd.
•Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd Rheolwyr Tîm Sirol yn absenoldeb y rheolwr
•Cyfrannu at Hyfforddiant mewn swydd, ac at weithgareddau hyfforddi fel bo’n briodol.
Cyfrifoldebau eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Bydd disgwyl i symud safleoedd gwaith a’r gais y gwasanaeth
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
•Bydd angen cwblhau DBS, a chofrestru gyda Cyngr Gofal Cymru.
•Bod yn barod i symud i weithio mewn Gwasanaeth arall mewn argyfwng.