Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Sicrhau bod y deffiyddwyr gwasanaeth yn cael eu cludo yn ddiogel ac yn gyfforddus.
•Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gynnal a'i gadw yn lân ac yn ddiogel.
•Sicrhau Iles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr gwasanaeth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i fynd ar y ffordd ac yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau lechyd a Diogelwch a'r gofynion cyfreithiol cyn mynd â'r cerbyd ar y ffordd.
•Sicrhau y perchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da. Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
•Bod yn ran o'r broses gynllunio ac adolygu rhaglenni'r unigol defnyddwyr y gwasanaeth.
•Cadw a pharchu cyfrinachedd yr holl ddefryddwyr gwasanaeth a gweithrediadau'r Adran.
•Sicrhau bod y cerbyd yn lân a diogel a bod ganddo yr holl ddogfennau cywir ar ddechrau pob dydd. Adrodd am unrhyw ddiffygion i 'r Rheolwr Llinell.
•Casglu a chludo defnyddwyr gwasanaeth i ac o'u cartrefi i'r Canolfannau Dydd.
•Cynorthwyo'r defnyddwyr gwasanaeth ar ddechrau a diwedd eu siwrnai gan gynnwys Ilwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn, cymhorthion, codi defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
•Yn gyfrifol am les y defnyddwyr gwasanaeth bob amser gan ddatblygu perthynas ofalu broffesiynol gyda'r defnyddwyr gwasanaeth er hybu eu lles, annibyniaeth a'u cysur
•Gweithredu fel cyswllt cyntaf rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'r gwasanaethau perthnasol (e.e. Rheolwr Atebol, Gweithwyr Cymdeithasol, Rhieni) gan adrodd am eu gofynion a'u cyflwr.
•Ymgymryd â'r holl hyfforddiant sydd yn gysylltiedig gyda'r cerbyd a chludo defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel
•Ymgymryd â'r holl hyfforddiant sydd yn gysylltiedig gyda lechyd a Diogelwch ac ymgymryd â dyletswyddau cymhorthydd cymorth cyntaf i 'r defnyddwyr gwasanaeth.
•Gyrru unrhyw gerbyd adrannol fel bo'r gofyn gan gynnwys gwirio cerbydau yn gyffredinol, gwaith cynnal a chadw cyffredinol a glanhau.
•Pan nad yw'r ymgymryd â gwaith cludo bydd y dyletswyddau yn cynnwys cymryd rhan mewn dyletswyddau cyffredinol yn y Ganolfan Dydd fel a ystyrir yn addas gan y goruchwyliwr fel cynorthwyo defryddwyr gwasanaeth yn ystod cyñod gwaith yn y sefydliad ac yn ystod gwibdeithiau neu ar negesydd.
•Ni ddylid ystyried y rhestr yma o dasgau fel rhestr gyflawn gan y gall y tasgau amrywio yn unol â gofynion y defryddwyr gwasanaeth ar y pryd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-