NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Egniol a Threfnus, gyda llygad am fanylder a chywirdeb
Y gallu i adnabod tasgau sydd angen eu cwblhau, a’u gweithredu arnynt yn brydlon â therfynau amser a thargedau
Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dim
Y gallu i ddrebyn cyfrifoldebau a chyfathrebu’n effeithiol
Y gallu i feithrin cyd berthynas a chyfathrebu i safon uchel
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg
DYMUNOL
Defyndd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth, neu brofiad o weithio mewn cefnogi cefnogi
prosiectau
DYMUNOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth, neu brofiad mewn rheoli prosiectau
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ymdrin gydag ymholiadau yn effeithiol a prydlon
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a sefydliadau ar lefel eang
Profiad o weithio mewn swyddfa, yn rhan o dîm a chyflawni tasgau heb oruchwyliaeth
DYMUNOL
Profiad o weithio ar rhaglenni gwaith neu brosiectau sydd wedi eu hariannu
gan grantiau cyhoeddus
Profiad o drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau
Profiad o gasglu a darparu gwybodaeth monitro i gorff ariannu
Profiad o ddulliau marchnata yn cynnwys ysgrifennu datganiadau i'r wasg
phostiadau cyfryngau cymdeithasol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gan cynnwys y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gydag amrediad eang o gynulleidfaoedd
Llythrennog mewn TGCh, yn gyfforddus gyda Word, Excel a rhegleni tebyg
Gallu i flaenoriaethu gwaith
Sgiliau mathamategol ac ieithyddol da
DYMUNOL
Gwybodaeth am ganllawiau rhaglenni ariannol ac arferion da wrth weinyddu/monitro prosiectau
Gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)