Swyddi ar lein
Asesydd Budd Gorau x2
£38,626 - £42,708 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28225
- Teitl swydd:
- Asesydd Budd Gorau x2
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl
- Dyddiad cau:
- 17/04/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £38,626 - £42,708 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
PS1 (graddfa Gweithiwr Cymdeithasol)/ PS2 (graddfa Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol)
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Mannon Trappe ar 01286 679723
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 17/04/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu.
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Gallu i herio â delio â gwrthdaro.
Gallu i gymryd cyfarwyddiadau a derbyn atborth adeiladol.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd neu ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol neu Seicolegydd Siartredig neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig rhagflaenol.
• Cofrestriad cyfredol gyda chorff proffesiynol perthnasol.
• Cymhwyster Asesydd Budd Gorau dan Achrediad Proffesiynol DoLS (yn barod i ymarfer)PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gyda oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanolDYMUNOL
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth sylweddol yn sgil profiad ymarferol o'r prif faterion wrth weithio gydag oedolion ag anghenion cymhleth, pobl ag anableddau (gan gynnwys Anableddau Dysgu), pobl â salwch Iechyd Meddwl, Anafiadau i’r Ymennydd a salwch cronig ac unrhyw bobl eraill sy'n dod o dan DoLS.
Gwybodaeth gadarn yn sgil profiad ymarferol o'r ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau perthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a deddfwriaeth sy'n ymwneud â gofalwyr.
Dealltwriaeth a phrofiad o weithio’n amlddisgyblaeth.
Sgiliau cyfathrebu a’r gallu i adeiladu perthnasau gweithio effeithiol gyda swyddogion proffesiynol eraill o fewn y timau integredig ac asiantaethau partner.
Y gallu i reoli llwythi gwaith / allbynnau, gosod blaenoriaethau a chyflawni amcanion trwy osod targedau gydag amserlenni.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth
Y gallu i gadeirio cyfarfodydd amlbroffesiwn effeithiol a sicrhau bod yr holl gynlluniau'n glir ac yn canolbwyntio ar y cleient.
Sgiliau cadarn ar gyfer cynnal asesiadau cymhleth, sgiliau cyfweld a sgiliau adolygu. Gallu dadansoddol cadarn a dystiolaethir mewn asesiadau ac adroddiadau a luniwyd yn dda ac a ddarperir o fewn amserlenni.
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio Gwasanaethau.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Bod yn asesydd nudd gorau mewn ymateb i ofynion Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLs) ac i ddyfarniad Cheshire West
• Cynorthwyo’r Cydlynydd i gydgordio’r broses asesu ac awdurdodi ar ran Corff Goruchwylio; Cyngor Gwynedd•Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Dim penodol ond disgwylir i’r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.Prif Ddyletswyddau.
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
• Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml-
• Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.
• Cwblhau a llwyddo mewn perthynas â hyfforddiant Asesydd Budd Gorau.
• Cynnal Asesiadau Galluedd Meddyliol ac Asesiadau Budd Gorau ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal neu mewn ysbytai dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (DGM), Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a chyfraith achos o’r Goruchaf Lys a'r Llys Gwarchod mewn perthynas ag amddifadu o ryddid.
• Cynnal Asesiadau Galluedd Meddyliol a Budd Gorau i bobl yn y gymuned i'w cyflwyno a'u hawdurdodi gan y Llys Gwarchod.
• Ymgymryd â chyfrifoldebau Asesydd Budd Gorau (ABG) fel y penderfynir gan y DGM, DoLS a ddeddfwriaeth gysylltiedig, codau ymarfer cenedlaethol a chanllawiau cenedlaethol a lleol.
• Cwblhau unrhyw hyfforddiant all ddod ohrwydd newid I Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
• Cynnal asesiadau DoLS o fewn yr amserlenni priodol ar draws ystod o grwpiau a lleoliadau defnyddwyr gwasanaethau oedolion, a chofnodi’r holl asesiadau hyn yn briodol ac yn amserol, a chefnogi'r broses awdurdodi ffurfiol mewn perthynas ag Amddifadu o Ryddid.
• Darparu cyngor a hyfforddiant arbenigol a gweithredu fel adnodd ar gyfer y DGM a DoLs a’u goblygiadau ar gyfer ystod o sefydliadau ac unigolion.
• Rheoli llwyth o achosion cymhleth, amrywiol ac sy’n newid yn gyflym, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â diogelu oedolion a materion risg a galluedd meddyliol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli materion a phenderfyniadau sensitif, emosiynol a dadleuol gyda chleientiaid, perthnasau a gofalwyr, a bydd rhai ohonynt yn ceisio datrysiad yn y Llys Gwarchod.
• Gweithredu bwriad i Amddifadu o Ryddid o fewn amserlenni a bennir gan y gyfraith a phwyso a mesur a yw hynny er budd gorau ai peidio, a chyflwyno adroddiadau perthnasol i'r Corff Goruchwyliol a lle bo'n briodol i’r Llys Gwarchod.
• Cael, gwerthuso a dadansoddi tystiolaeth gymhleth a safbwyntiau gwahanol a’u gwerthuso’n briodol wrth wneud penderfyniadau.
• Ymgynghori, cysylltu a thrafod gyda'r rheini sy'n ymwneud ag Asesiad Budd Gorau, gan gynnwys yr holl bartïon arwyddocaol: y person perthnasol, y teulu, y ffrindiau, y rheini sy'n ymwneud â gofal y person, Eiriolydd, Cynrychiolydd, Atwrnai neu Ddirprwy, Awdurdod Rheoli. Sicrhau persbectif budd pennaf a gwneud penderfyniadau annibynnol a gwybodus.
• Gwneud argymhellion priodol ynglŷn â phenodi Cynrychiolydd Personau Perthnasol, (gan gynnwys rhai a delir) yn unol â rheoliadau, ynghyd ag uwchgyfeirio unrhyw achosion gwrthwynebiad i'r llys gwarchod yn unol â chyfraith achos.
• Defnyddio gwybodaeth am asesu galluedd meddyliol yn unol â’r fframweithiau cyfreithiol gan gymryd i ystyriaeth ystod eang o ffactorau, gan gynnwys cyfraith achos cyfredol a newydd. Deall goblygiadau analluedd meddyliol i bobl sy'n comisiynu a defnyddio gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr a darparwyr gwasanaethau.
• Cyflwyno achosion mewn gwrandawiadau cyfreithiol ac ymarfer y defnydd priodol o annibyniaeth, awdurdod ac ymreolaeth er mwyn llywio ymarfer fel Asesydd Budd Gorau, ynghyd ag ymgynghori a goruchwylio.
• Sicrhau bod Awdurdodau Rheoli yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth sicrhau nad oes neb yn cael ei amddifadu o ryddid heb awdurdod cyfreithiol a rhoi cyngor a chymorth i bob asiantaeth partner.
• Cynnal adolygiadau amserol o awdurdodiadau Amddifadu o Ryddid gan sicrhau y cedwir cyswllt ac y cyfathrebir yn briodol ag Awdurdodau Rheoli.
• Cynnal cofnodion proffesiynol priodol a darparu adroddiadau clir a rhesymegol yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion da.
• Ymateb yn briodol i sefyllfaoedd brys, gan gynnwys argyfyngau, Amddiffyn Eiddo a rhyddhau o’r ysbyty, a hynny er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn derbyn y cymorth y maent ei angen.
• Sicrhau y cedwir cofnodion achos a chofnodion TG cynhwysfawr a chywir, yn unol ag arferion gwaith maes y cytunwyd arnynt.
• Cynhyrchu adroddiadau achos a gohebiaeth ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, lle bo hynny'n briodol, cyfarfodydd, cynadleddau, llysoedd, paneli ac asiantaethau eraill.
• Gweithredu fel model rôl ar gyfer datblygiad proffesiynol a thechnegol parhaus a chynnal gwybodaeth eang am ofal cymdeithasol, yn ogystal ag arbenigedd traws gwasanaeth yn y maes gwybodaeth arbenigol dynodedig. Gall hyn gynnwys gweithredu fel goruchwyliwr a mentor ar gyfer y rheini sy'n dilyn hyfforddiant Asesydd Budd Gorau.
• Cynnal cyswllt effeithlon a dibynadwy ag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill yn ogystal ag adrannau eraill y Cyngor, gan roi ystyriaeth arbennig i berthnasau gwaith effeithiol gyda darparwyr gwasanaethau preswyl, nyrsio a chymunedol yn y sectorau statudol ac annibynnol.
• Cynorthwyo i fonitro gwaith y Gwasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol a gwneud argymhellion ar ddatblygiadau gwasanaeth i’r dyfodol lle bo'n briodol.
• Nodi, ymchwilio a rheoli pryderon diogelu posib, a sefyllfaoedd risg uchel eraill lle mae diogelwch neu ryddid y dinesydd mewn perygl, gan uwchgyfeirio fel y bo'n briodol fel y gall dinasyddion gymryd risgiau tra’n eu diogelu rhag camdriniaeth, gan reoli'r risgiau i staff a’r Cyngor.
• Hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth ar gyfer yr holl weithwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â pholisïau ac arferion y Cyngor.
• Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newyddyn y maes diogelu.
• Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth gyda’r rheolwr tim.
• Mynychu cyfarfodydd aml ddisgyblaethol, cynadlleddau achos, cysylltu ag asiantaethau cymunedol a chynrychioli’r tim ar bwyllgorau/grwpiau perthnasol.
• Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Cyngor a’r Adran.
• Cydymffurfio a’r holl bolisiau a threfn y Tim.
• Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o ‘r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a’r swydd ond yn unig fel mynegiant o’r prif ddyletswyddau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.