Annwyl Ddarpar Ymgeisydd,
Diolch am eich diddordeb yn swydd Pennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen.
Mae corff llywodraethu Ysgol Dyffryn Ogwen yn chwilio am bennaeth brwdfrydig fydd yn arwain ac ysbrydoli cymuned yr ysgol, gyda gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol a phrofiad o lwyddiant.
Disgwylir i’r pennaeth newydd feithrin diwylliant o wella parhaus, gan adeiladu ar waith y pennaeth presennol a’r uwch dîm arwain. Byddwch yn cynnal safonau o’r radd flaenaf a chynnig cwricwlwm eang a diddorol i’n holl ddisgyblion.
Mae’r ysgol yn falch iawn o wasanaethu cymuned Dyffryn Ogwen ac yn datblygu dinasyddion sy’n falch o’u bro, eu treftadaeth a’u hiaith. Mae’r ysgol ei hun yn gymuned glos, lle y disgwylir safonau uchel bob amser o ran ymddygiad a pharch tuag at eraill. Mae’r cysylltiadau rhwng yr ysgol, y rhieni a’r gofalwyr, a’r gymuned ehangach yn hollbwysig i ethos yr ysgol.
Mae gennym staff ymroddedig a chorff llywodraethu cefnogol ac rydym yn awyddus i benodi pennaeth uchelgeisiol a mentrus, a fydd yn cynnig arweinyddiaeth gref i ddatblygu’r ysgol ymhellach er lles ein disgyblion a’n staff.
Diolch eto am eich diddordeb yn y swydd.
Os ydych yn awyddus i geisio am y swydd bydd angen cyflwyno cais erbyn hanner dydd, dydd Mercher, 9 Ebrill 2025.
Paul Rowlinson
Cadeirydd y Llywodraethwyr