NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r agwedd a’r ymddygiad priodol fydd yn gallu arddangos eu hawydd a’u penderfyniad i weithio i lywodraeth leol.
• Dangos y potensial i fod yn arbenigwr ac yn arweinydd
• Cyflawni gwaith o’r safon uchaf
• Cydweithio efo pobol yn effeithiol
• Yn barod i Herio
• Blaenoriaethu llesiant
• Dangos lefel uchel o hunan ymwybyddiaeth
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Meddu ar neu yn debygol o ennill gradd dosbarth 2:2 neu uwch.
Ar gyfer rhai swyddi, fe ddylai eich gradd fod mewn pwnc neu faes sydd yn berthnasol i’r swydd. Rydych yn gymwys i ymgeisio hyd yn oed os ydych wedi graddio flynyddoedd yn ôl.
Meddu ar TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth
HANFODOL
Mae rhai o swyddi 2025 yn gofyn am:
• Trwydded yrru lawn
• Gwyriad DBS – bydd y Cyngor (ar gyfer Swyddi perthnasol) yn gyfrifol am wneud y gwiriad yma ar yr ymgeisydd llwyddiannus
• Am raddau neu gymwysterau hanfodol, gweler Prosbectws Cyngor Gwynedd Prospectus 2025
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
LEFEL UWCH ar gyfer pob elfen ieithyddol