Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Diolch i chi am ystyried gwneud cais ar gyfer ein prentisiaethau flwyddyn yma!
Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau, ennill profiad gwerthfawr a cychwyn gyrfa yma efo ni.
Rydym yn edrych ymlaen i dderbyn eich cais.
Cliciwch ar y 'lincs‘ i fynd â chi i’n gwefan a Prosbectws Talent a Phrentisiaethau 2025
** PWYSIG ** Cofiwch enwi Teitl y swydd Prentis yr ydych yn trio amdani (e.e. Swydd Prentis Adnoddau Dynol - Cynllun Prentisiaethau. Dewiswch o un o‘r teitlau swyddi isod:
• Prentis Gradd Peirianneg Meddalwedd
• Prentis Gradd Gwyddor Data ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Cyllid
• Prentis Systemau Digidol
• Prentis Gradd Ynni
• Prentis Peirianneg Sifil ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Cefnogi Prosiectau
• Prentis Technegydd Fflyd (Mecanic)
• Prentis Busnes ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Trethi
• Prentis Cefnogi Buddion y Dyfodol
• Prentis Busnes Tai ac Eiddo
• Prentis Democratiaeth
Cyn ysgrifennu eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canlynol:
Canllawiau Gwneud Cais ac egluro yn glir yn eich cais pam eich bod eisiau'r swydd yr ydych yn trio amdani (e.e. pam bod y swydd / maes yn apelio)
Mae angen i chi hefyd edrych ar Manylion Person y swydd ac egluro pa sgiliau sydd gennych sy’n berthnasol i’r swydd. Mae croeso i chi ddefnyddio profiadau o fyd addysg, eich bywyd personol neu phroffesiynol. Defnyddiwch enghreifftiau gwahanol ar gyfer pob pwynt os yw hyn yn bosib.
Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ac yn Prosbectws Swyddi 2025
Os na fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer eich swydd ddewisol, m ae posib y byddwn yn ystyried eich cais ar gyfer swydd debyg o fewn y cynllun.
Cofiwch nodi lle glywsoch chi am y swydd (e.e.. Gwefan y Cyngor, Facebook, Instagram, gan aelod o staff Cyngor, Coleg, Ysgol, Prifysgol, AVS ayyb)
Pob lwc!