Swyddi ar lein
Swyddog Chwarae a Datblygiad Cynnar
£25,584 - £27,269 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 24-28154
- Teitl swydd:
- Swyddog Chwarae a Datblygiad Cynnar
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 31/03/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £25,584 - £27,269 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Susan Layton ar 01286 6788244
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 31/03/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Person amyneddgar sydd â’r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy’n gallu gweithio o dan bwysau, ac fel rhan o dîm.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Safon dda o addysg hyd at Lefel A neu gyfatebol a chymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF ar gyfer gweithwyr cymorth, neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster yma.
Mewn amgylchiadau allweddol, oherwydd natur y swydd, bydd profiad eang a
phriodol yn y maes iechyd, addysg neu gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried
fel cymhwyster ychwanegol
Dymunol
Cymhwyster yn y maes chwarae
Cymhwyster Cefnogi Teulu
Profiad perthnasol
Hanfodol
Sgiliau trefnu da
Gallu i weithio’n effeithiol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint).
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy’n berthnasol i faes plant ac yn enwedig o fewn y maes blynyddoedd cynnar, cefnogi teulu a gofal plant.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Gallu i gyfathrebu’n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang.
Dymunol
Dealltwriaeth o’r Cynlluniau Cefnogi Teulu / Blynyddoedd Cynnar / Chwarae
sydd ar gael yn lleol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Profiad o’r maes chwarae a datblygiad plentyn.
Profiad o hyrwyddo’r sgiliau chwarae
Profiad o weithio’n effeithiol gydag eraill gan gynnwys plant, rhieni, staff ag asiantaethau
Profiad o redeg grwpiau neu sesiynau
Profiad o lunio adroddiadau
Dymunol
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa
Profiad o asesu ac ymateb i anghenion amrywiol a chymhleth
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a’u rhieni wrth gynllunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•PWRPAS Y TIM – ‘Cefnogi'r Teulu i alluogi'r plentyn i ddatblygu a chyrraedd eu llawn botensial’.
•Gweithio gyda phlant Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf sy’n dangos anghenion dysgu ychwanegol
•Cynnal sesiynau sgiliau sylfaenol, cefnogi teulu, chwarae a chyfathrebul yn rheolaidd, yn unigol neu mewn grŵp.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer
•offer TG – Laptop a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
•Cynnal sesiynau un i un gyda theuluoedd unai o fewn y cartref neu leoliadau gan weithredu ar gynllun strwythuredig sydd wedi ei gytuno gyda’r cyfeirydd. Gweithio gyda rhieni i gwrdd ag anghenion eu plant.
•Gweithredu Cynllun datblygu unigol gan roi Llais y plentyn ar teulu yn y canol yn unol a deddfwriaeth ADY.
•Cynnal asesiadau trylwyr i adnabod cryfderau a gwendidau’r plant a theilwrio ymyrraeth gyda’r teulu i gefnogi’r anghenion ar draws yr haenau angen mewn grwp neu unigol . Defnyddio sgiliau, hyfforddiant a phrofiad arbenigol i gefnogi rhieni a phlant fel egwyddorion ELKLAN PORTAGE a WELLCOMM a strategaethau ‘Parent and child interaction’ ac yn y blaen, mewn grwp ac yn unigol.
•Monitro cynnydd pob teulu a’u plant gan ysgrifennu adroddiadau rheolaidd, ac adolygu cynlluniau yn aml i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd, a deddfwriaeth ADY.
•Cynnig gwybodaeth i rieni am feysydd amrywiol gan gyfeirio fel bod angen i asiantaethau eraill.
•Cyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni.
•Cefnogi dulliau i wella sgiliau'r rhieni i gefnogi datblygiad eu plentyn.
•Cyfrifoldeb dros fynychu cyfarfodydd teulu i adrodd, adolygu, monitro cynnydd, a thrafod rhaglenni unigol teuluoedd.
•Cydweithio gyda’r lleoliadau gofal plant i drosglwyddo plant yn effeithiol gan rannu gwybodaeth am dargedau'r cynllun Datblgyu unigol a chynnig arbenigedd drwy fentora swyddogion sydd yn cefnogi plant newydd yn y lleoliad i weithredu cynllun yn bwrpasol i’r plentyn.
•Trefnu a chynnal gweithgareddau Sgiliau Sylfaenol fel y nodir yn y canllaw ar Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu. Sicrhau fod y tîm yn creu rhaglen flynyddol amrywiol o grwpiau mewn cydweithrediad gyda’r Uwch Swyddog Datblygiad Cynnar a Chwarae a phartneriaid eraill gan:
•Cydlynu, trefnu a monitro gwariant i hyrwyddo gweithgareddau Hwyl i’r Teulu o fewn y cynllun Dechrau’n Deg.
•Adnabod lleoliadau addas (os bydd angen) i redeg cyrsiau newydd gan gynnal asesiadau risg priodol.
•Adnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal y cyrsiau ar y cyd gydag Ymwelwyr Iechyd, Mudiad Meithrin, Gwasanaeth Llyfrgell, Therapyddion Iaith a llefaredd. a.y.b.
•Cydweithio i adnabod rhieni/ gofalwyr addas a marchnata’r cyrsiau yn lleol.
•Dethol a pharatoi pa sesiynau neu adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o’r gynulleidfa drwy roi sylw i ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y rheini/ gofalwyr a’u plant.
•Arddangos offer yn ddiogel yn y lleoliadau gan sicrhau awyrgylch addas i’r oedrannau amrywiol
•Casglu adborth am y grwpiau drwy holiaduron a llyfr sylwadau gan gasglu tystiolaeth o lwyddiannau neu rwystrau, cyweithio efo’r Tim i gyflwyno unrhyw welliannau
•Bod yn gyfrifol am gadw cofnod, gwybodaeth a data am bob sesiwn a gynigir, gan gynhyrchu dadansoddiadau ystadegol ac adroddiadau monitro a pherfformiad
•Cyflwyno gwybodaeth i gatalogio adnoddau, cyflwyno adroddiadau i’r uwchweithwyr a chreu archebion fel sydd angen.
•Cynnal offer arbenigol, gwirio am ansawdd/diogelwch, ymgymryd ag atgyweirio/ addasiadau arbenigol fel bod angen.
•Cydymffurfio gyda gweithdrefnau Diogelu Plant gan adrodd yn bwrpasol fel bo angen.
•Mynychu cyfarfodydd staff, timau a gweithgorau eraill y Gwasanaeth fel bod angen.
•Bydd angen cynorthwyo, cydweithio a chefnogi cyd-weithiwr eraill ar y Cynllun drwy gyd rhedeg sesiynau a chyd ymweld â chartrefi buddiolwyr.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio 37awr yr wythnos
•Bydd angen i’r swyddog yn achlysurol weithio oriau anghymdeithasol trwy gytundeb efo rheolwr llinell.