Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithredu cyrsiau /dosbarthiadau a gwaith un i un yn y maes rhiantu drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd Gwynedd.
•Rhoi rhieni yn ganolog i phopeth, gan ddefnyddio dulliau person canolog sy’n gyfeillgar i awtistiaeth a gwneud addasiadau priodol i gyfarfod anghenion.
•Cefnogi y gwasanaeth awtistiaeth o fewn y Sir, gan bontio rhwng Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion a hybu gweithrediad cyson ar draws y Sir.
•Bydd y swydd yn cynnal llwyth gwaith drwy gymysgedd o:
•weithio ar lefel unigol yn ogystal a gwaith grŵp.
•ymyrraeth anuniongyrchol drwy rannu gwybodaeth, gwneud gwaith ymgynghori a rhoi cyngor i weithwyr sy’n cefnogi unigolion awtistig.
•gwneud gwaith uniongyrchol gydag unigolion awtistig a’u teuluoedd a chydweithio a gweithwyr eraill sy’n cynnal unigolion awtistig.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer cyrsiau
•Arian mân – arian gweithredu cyrsiau rhiantu
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb dros weithredu cyrsiau/dosbarthiadau a gwaith un i un yn y maes rhiantu drwy weithio’n integredig gyda gwasanaethau amrywiol i redeg gwasanaeth pwrpasol ac o ansawdd i deuluoedd.
•Cynefino â’r ystod o raglenni sydd ar gael i gefnogi teulu gan weithredu arlwy o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd gydag anghenion y teuluoedd
•Gweithredu rhaglenni rhiantu drwy:
•Gweithio gyda rhieni i gwrdd ag anghenion eu plant
•Gweithio gyda rhieni i gwrdd ag adnabod ein hanghenion eu hunain
•Alluogi rhieni i ddatblygu dulliau o sut i ddelio gydag ymddygiad a materion i fywyd bob dydd plentyn
•gyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni
•ddarparu mynediad i wybodaeth
•adnabod dulliau i wella sgiliau'r rhieni.
•Gweithredu asesiadau cychwynnol effeithiol a llwyddiannus ar gyfer y gwaith cefnogi teulu.
•Cydweithio’n agos gyda’r Tîm Awtistiaeth i gynnig ymyrraethau priodol i deuluoedd Gwynedd.
•Cynnig cefnogaeth i ddatblygu arbenigedd i fentora staff i redeg cyrsiau rhiantu amrywiol effeithiol i ystod o oedrannau. Arwain arweinwyr newydd di brofiad i redeg cyrsiau cychwynnol drwy arsylwi, cyd rhedeg a chynnig cefnogaeth fel bod angen fel bod y cyrsiau yn rhedeg yn effeithiol.
•Ysgogi darpariaeth riantu newydd mewn cydweithrediad a phartneriaid amrywiol drwy:
•Adnabod lleoliadau addas ar gyfer rhedeg cyrsiau newydd gan gynnal asesiadau risg priodol.
•Cydweithio i adnabod lleoliadau gofal plant fel meithrinfa Plas Pawb i gyd fynd gyda rhediad y cyrsiau rhiantu neu os yn rhaglen reolaidd sefydlu darpariaeth gofal plant achlysurol ar y safleoedd newydd.
•Adnabod staff priodol a chytuno ar ymrwymiad llawn i gynnal cyrsiau rhiantu
•Cydweithio i adnabod rhieni/ gofalwyr addas
•Cydgordio’r asesiadau cychwynnol
•Adnabod unrhyw rwystrau eraill e.e. trafnidiaeth.
•Mewn cydweithrediad â chydweithwyr priodol marchnata’r gwasanaethau sydd ar gael e.e. crynhoi’r wybodaeth am y rhaglenni rhiantu yn dymhorol a llunio cyfeirlyfr electronig.
•Cydweithio’n agos gyda’r tîm Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf ac asiantaethau eraill i gydlynu a chyd gynnal grwpiau amrywiol ar safle Plas Pawb a chanolfannau eraill. Gweithio ar ddatblygu grwpiau neu weithgareddau ar y safle gan ddenu grwpiau penodol fel tadau i geisio defnyddio’r cyfleusterau.
•Cydweithio i sefydlu a chynnal systemau i fonitro’r ddarpariaeth drwy fesur effaith y rhaglenni a sicrhau systemau rheoli perfformiad effeithiol. Cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau data mewn modd amserol a thaclus a sicrhau y bodlonir yr holl ofynion ar gyfer yr holl asiantaethau allanol mewn perthynas â chynnydd a monitro rhaglenni gwaith.
•Mynychu a chyfrannu’n weithredol at ystod o gyfarfodydd, digwyddiadau a seminarau sy’n rhoi sylw i faterion sy’n gysylltiedig â datblygiad yn y maes cefnogi teulu er mwyn rhaeadru’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion a meddylfryd cyfredol: rhwydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel y Fforwm Magu Teulu.
•Darparu rheolaeth ofalus ar y gyllideb ac unrhyw adnoddau eraill a roddir i’r tîm e.e. gweinyddu taliadau arian man ar gyfer rhediad effeithiol y rhaglenni a gweinyddu taliadau gofal plant
•Gweithio ar adnabod ffynonellau ariannol addas newydd i ddatblygu’r maes cefnogi teulu gan gyflwyno ceisiadau ariannol drwy arweiniad y Bwrdd Rheoli
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•O bryd i bryd angen i weithio oriau anghymdeithasol