Pennaeth Oedolion
Cyflog: £81,860 - £90,274
• Ydych chi’n arweinydd creadigol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf?
• Ydych chi’n awchu i fod yn rhan o dîm o swyddogion ac aelodau etholedig sydd yn rhoi o’u gorau i drigolion ein cymunedau?
Rydym yn awyddus i benodi Pennaeth Oedolion a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth arwain a gwireddu’r weledigaeth sydd gan y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion y Sir.
Mae’r Cyngor yn sefydliad arbennig ac unigryw, sydd â gweithlu ac Aelodau Etholedig sydd yn frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau’r gorau i bobl Gwynedd. Mae’r Cyngor yn cael ei ystyried fel un o’r awdurdodau lleol sydd yn perfformio orau yng Nghymru ac un o’r heriau ar gyfer y dyfodol fydd parhau i arloesi a darparu gwasanaethau o safon i drigolion Gwynedd. Rydym am benodi unigolyn fydd yn gallu cydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli Corfforaethol, arweinwyr gwleidyddol y Cyngor a phartneriaid allanol er mwyn trosi’r dyheadau ar gyfer pobl Gwynedd yn weithredu cadarn.
Rydym yn chwilio am arweinydd creadigol ac arloesol, sydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, gyda’r gallu i arwain pobl i droi’r weledigaeth yn realiti. Mae’r her yn fawr ond yn un gyffrous, ac rydym am glywed gan unigolion talentog sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl y Sir. Rydym yn flaengar yn ein defnydd o’r Gymraeg, ac wedi gwneud enw i’n hunain fel cyflogwr sydd yn arwain yn y maes, trwy weithredu’n fewnol trwy gyfrwng yr iaith a chynnig ein holl wasanaethau yn ddwyieithog. Mae’r angen i gyfathrebu yn y Gymraeg i lefel uchel yn hanfodol ar gyfer y swydd hon felly ac mae’n dilyn y bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol a nodir yn y pecyn penodi.
Dylai ymgeiswyr fod â phrofiadau eang o fewn sefydliad mawr a chymhleth, gan allu dangos enghreifftiau o gyflawni, rheoli newid a gwella perfformiad. Os ydych yn barod am yr her yma ac yn awyddus i weithio ag arweinyddiaeth y Cyngor i arloesi a gwneud gwahaniaeth, yna byddwn yn croesawu’ch cais.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Dyddiad Cau: 10yb, 31 Mawrth, 2025
Am fwy o wybodaeth ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/PenodiPennaethAdranOedolion os am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Dylan Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01286 679 387.