Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Rheoli gwaith y Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
• Cydlynu cyrsiau partneriaeth ôl-16 ac 14-19 ysgolion Gwynedd ac Ynys Mon, gan cynnwys cyrsiau cydweithredol Grwp Llandrillo Menai
• Cyfrifoldeb am gwblhau dogfennau statudol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r maes
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Bod yn reolwr llinell i 2 aelod o staff
• Cyfrifoldeb am grant rhwydwaith 14-19 Gwynedd ac Ynys Môn a grant Rhwydwaith Seren
Prif Ddyletswyddau. .
Rheoli gwaith y Consortiwm Addysg ôl-16
• Cyd gynllunio cynllun busnes y Consortiwm gydag Uwch Reolwyr Addysg y ddwy sir a’r Colegau a sicrhau ei weithrediad gan fonitro ei ddeilliannau.
• Adrodd ar ansawdd y ddarpariaeth yn y meysydd 14-19 ac ôl-16 i BAS (Bwrdd Ansawdd Sirol) y ddwy sir yn ôl y gofyn.
• Bod yn gyfrifol am wneud ceisiadau am grantiau sy’n berthnasol i’r sectorau ôl-16 ac 14-19.
• Sicrhau defnydd effeithiol o system data a system teithio’r Consortiwm a’r wefan a chytuno ar delerau gyda’r darparwyr.
• Cydgysylltu gyda’r colegau ac asiantaethau eraill i feithrin a datblygu perthnasau ystyrlon gyda busnesau lleol/rhanbarthol a chyda phartneriaid eraill i gefnogi gwell dealltwriaeth o ofynion lleol, a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a mynediad at addysg uwch.
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau cynhyrchiol gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Medr.
• Paratoi adroddiadau a gwneud gwaith ymchwil yn unol a chyfarwyddyd aelodau’r bartneriaeth ddysgu a’r Bwrdd Arweiniol.
• Bod yn gyfrifol am y grant Rhwydwaith 14-19 yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
• Cydlynnu ac arolygu Rhwydwaith Seren y Consortiwm, gan roi sylw arbennig i ddeilliannau’r gweithgareddau.
Cydlynu cyrsiau partneriaeth ôl-16 ac 14-19 rhwng Gwynedd, Môn a Grŵp Llandrillo Menai
• Hyrwyddo a hwyluso cydweithio rhwng ysgolion a cholegau y bartneriaeth.
• Bod yn gyfrifol am raglennu a gweinyddu cyfarfodydd grwpiau partneriaeth ardal a chyfarfod partneriaeth dysgu’r Consortiwm.
• Cydlynu gweithgareddau’r grwpiau partneriaeth.
• Cydlynu cwricwlwm 14-19 o fewn rheolau’r grant.
• Sicrhau bod nosweithiau agored a sesiynau blasu i ddysgwyr yn cael eu trefnu yn unol a’r gofyn, a darganfod ffyrdd i gynnig llais i’r dysgwr drwy’r meysydd cyfrifoldeb.
• Sicrhau trefn hunan arfarnu a phrotocolau rhannu data a gwybodaeth ar gyfer y cyrsiau partneriaeth.
Cyfrifoldeb am gwblhau dogfennau statudol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r maes
• Cynorthwyo yn y gwaith o gasglu ac adrodd ar hynt disgyblion.
• Cwblhau dogfennau statudol sy’n ymwneud â’r maes ac adrodd i’r Llywodraeth a Medr ar y rhaglenni dysgu fel bo’n briodol.
• Adrodd ar fesurau perfformiad ôl-16 fel bo’n briodol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.