Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i reoli prosiectau, dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned, i sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
•Datblygu gallu personol mewn materion technegol a dylunio.
•Defnyddio technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
•Cynorthwyo i reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a bod yn rhan a rhoi cefnogaeth i aelodau’r tîm
•Cynorthwyo â rheolaeth ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Uwch Beiriannydd Prosiectau / Uwch Beiriannydd Technegol / Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned ar faterion prosiect fel bo'r angen
•Ymgymryd â dyletswyddau Cyrnychiolydd / Goruchwyliwr Peirianwyr ar brosiectau adeiladu dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned.
•Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
•Bod yn ymwybodol o, a gweithredu gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
•Bod yn ymwybodol o holl fentrau'r Llywodraeth / UE a'u goblygiadau
•Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:-
oarfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
odull caffael ar gyfer prosiectau isadeiledd
osafonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys y dechnoleg gyfredol), a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (gan gynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Goruchwylio staff eilaidd.
•Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
•Cynorthwyo â rheolaeth ariannol prosiectau
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Prif ddyletswyddau
•datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
•paratoi amcangyfrifon costau, cynnal asesiadau risg, cynllunio gofynion staff archwilio, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd camau adferol angenrheidiol.
•Cwblhau Asesiadau Archwiliad Isadeiledd Priffyrdd/Arfordirol a gwaith cynnal a chadw.
•Bod yn weithredol yn natblygiad a monitro'r Busnes
•Cynllunio i sicrhau bod yr Uned yn perfformio ar ei gorau ac y cyflawnir prif dargedau.
•gweithredu fel Goruchwyliwr gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo'r angen a chwblhau cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn briodol.
•cynorthwyo i ddatblygu a chynnal y ddogfen contract model
•ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
•Cynorthwyo i reoli prosiectau, dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned, a gweithredu fel rheolwr prosiect ar gynlluniau cymharol fychan a syml.
•cynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
•gweithredu a rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadurol mewn pethynas â dylunio. Cysylltu ag Uned Fusnes YGC.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
•dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
•y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
•Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng.