Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Codi safon y gwasanaeth yn y maes gofal trwy sicrhau cymwysterau addas yn unol â fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
•Cyd weithio a negydu gyda darparwyr hyfforddiant allanol er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o gymwysterau i weithwyr gofal
•Cyd weithio efo rheolwyr i adnabod ymgeiswyr addas i ymgymeryd â chymwysterau gofal ar wahanol lefelau, rhaglenni datblygiadol a’r cynllun anwytho
•Cydlynu rhaglen anwytho staff gofal uniongyrchol
•Cydlynu prosiectau a rhaglenni datblygu penodol o fewn y maes
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rhannol am Gyllid
•Offer TG
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu at gynllunio datblygiadau newydd efo cymwysterau a meysydd penodol yn y maes gofal ar sail genedlaethol , ranbarthol a lleol a chynorthwyo i’w gweithredu.
•Cyd weithio a chynghori rheolwyr ar ddewis gweithwyr i ymgymryd â lefel cymhwyster sy’n addas i’w swydd.
•Creu prosesau i sicrhau bod rheolwyr o fewn y maes gwaith yn ymrwymo i ddarparu tystiolaeth a chefnogaeth addas i weithwyr sy’n ymgymryd â chymwysterau gofal rhaglenni datblygiadol a’r cynllun anwytho.
•Ymgymryd â rôl cefnogi dysgu os oes angen mewn sefyllfaoedd pan mae anawsterau neu anghenion arbennig yn cael eu hadnabod.
•Cefnogi rheolwyr efo fonitro cynnydd ymgeiswyr ac aseswyr yn fewnol a trwy ei phartneriaethau a darparwyr allanol.
•Creu cynllun cymwysterau i Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gwynedd fel rhan o Gynllun Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru.
•Cymryd cyfrifoldeb am y broses sicrhau ansawdd cymwysterau gofal yng Ngwynedd yn cyd-fynd a gofynion y corff dyfarnu a darparwyr hyfforddiant .
•Cyd weithio efo’r gwasanaethau ar gynllun anwytho gweithwyr sy’n darparu gofal/cefnogaeth uniongyrchol.
•Hyfforddi ar raglen anwytho a meysydd eraill o fewn y maes gofal.
•Sicrhau ansawdd a chadw rhaglenni e ddysgu anwytho yn gyfredol
•Trefnu rhaglen anwytho ar y cyd efo swyddog hyfforddi
•Sefydlu prosiectau newydd yn y gwasanaethau ar y cyd efo swyddogion hyfforddi
•Monitro cynnydd gweithwyr sy’n darparu gofal/cefnogaeth uniongyrchol ar raglen anwytho.
•Darparu rhaglen anwytho i reolwyr darparu gofal newydd yn unol â disgwyliadau rheoleiddio GCC a CIW .
•Cyd weithio efo’r gwasanaethau , asiantaeth BCUHB a darparwyr hyfforddiant preifat ar ddarpariaeth hyfforddiant ac asesu cymwyseddau gweithwyr sy’n darparu/cefnogi gofal uniongyrchol yn cynnwys cadw cofnodion cyfredol.
•Gweithio mewn partneriaeth efo darparwyr hyfforddiant a chymwysterau yn cynnwys sefydliadau addysg leol yn cynnwys monitro ansawdd y ddarpariaeth .
•Cyd weithio efo darparwyr hyfforddiant a’r gwasanaethau ar ddatrys materion sicrhau ansawdd sy’n codi.
•Monitro cynnydd unigolion sy’n dilyn cymwysterau gofal perthnasol a gall hyn gynnwys :
1.Adroddiad chwarterol/misol gan ddarparwyr hyfforddiant.
2.Cyfarfodydd rhithiol/wyneb i wyneb efo darparwyr hyfforddiant , unigolion a rheolwyr.
3.Cefnogi unigolion ar faterion sy’n codi i gwblhau'r cymwysterau.
•Cefnogi gweithwyr efo sgiliau sylfaenol a sgiliau rhyngbersonol
•Cydlynu rhaglen pencampwyr o fewn y gwasanaethau gofal
•Cyd weithio efo Academi Gofal Gwynedd ar faterion cymwysterau gofal a llwybrau gyrfa.
•Cydlynu casgliad blynyddol data gweithlu sy’n darparu/cefnogi gofal uniongyrchol yn unol â disgwyliadau Gofal Cymdeithasol Cymru.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid gweithio tu allan i oriau yn achlysurol