ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG
(Ysgol Gyfun 11 – 16 oed, 369 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 17 Mawrth 2025 (neu cyn gynted a phosib)
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 UN I UN
(Cyfnod Mamolaeth)
Swydd dros dro yw hwn yn ystod cyfnod mamolaeth un o Cymhorthyddion yr Ysgol. Daw’r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i’w gwaith.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a’ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i’r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£14,790 - £15,024 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.
Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD MERCHER, 5 O MAWRTH, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.