ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 – 18 oed, 771 o ddisgyblion)
I GYCHWYN: CYN GYNTED A PHOSIB
ATHRO/ATHRAWES SAESNEG (DROS DRO)
Swydd am gyfnod o fis yw hwn i gychwyn ac bydd parhad y swydd yn cael ei adolygu cyn diwedd y cyfnod cyflogaeth.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol i addysgu saesneg i ddisgyblion yng Ngyfnodau allweddol 3 a 4. Mae Ysgol Brynrefail yn ysgol blaengar a llwyddiannus.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49.944) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ffafriol ond ddim yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth mewn gofal, Miss Zoe L Jones, rhif ffon 01286 672381, ebost pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd, ar wefan eteach neu i’w cyflwyno i’r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 24ain o Chwefror, 2025.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau rhwng Dydd Gwener 28ain a Dydd Mawrth y 4ydd o Fawrth 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.