PWRPAS SWYDD
• Darparu cefnogaeth gyffredinol weinyddol/ariannol i’r ysgol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Trefniadaeth
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
• Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf /dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy’n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau, ayyb.
Gweinyddu
• Darparu cefnogaeth glercio/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, cwblhau ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth arferol.
• Cynnal cofnodion /systemau gwybodaeth rheolaeth, e.e. SIMS.
• Cynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data fel y bo’n ofynnol, e.e. data disgyblion (STAR).
• Ymgymryd â theipio a phrosesu geiriau a thasgau TG-seiliedig eraill.
• Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd.
• Trefnu a danfon post.
• Ymgymryd â gweithdrefnau arferol gosod adeiladau’r ysgol a defnydd eraill o adeilad yr ysgol.
Adnoddau
• Gweithredu offer perthnasol/ pecynnau TG a Ch (e.e. Word, Excel, basdata, taenlenni, rhyngrwyd).
• Cynnal stoc a chyflenwadau, catalogio a dosbarthu fel y bo’n ofynnol.
• Gweithredu gwerthiannau gwisg a gwerthiannau eraill o fewn yr ysgol.
• Darparu cyngor ac arweiniad cyffredinol i staff, disgyblion ac eraill.
• Ymgymryd â gweinyddu ariannol cyffredinol, e.e. prosesu archebion cyflenwadau, casglu a chynnal llechres ysgol.
Cyfrifoldebau
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â hwy mewn perthynas ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, gan adrodd ar bob pryder i’r pennaeth.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a’i gefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel bo’r gofyn
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad fel bo’r gofyn.