ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 – 18 oed, 771 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2025.
Athro/Athrawes Saesneg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)
Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hyd at 31.08.2027 yn unig yw hwn
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Saesneg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) – gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Di-Gymhwyster (£21,812 - £34,495) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth Mewn Gofal, Miss Zoe L Jones, pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru, neu ffôn 01286 672381.
Gofynnwn i unigolion sydd â diddordeb ymgeisio am y swydd baratoi ac anfon CV a llythyr eglurhaol i’r cyfeiriad ebost sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru.
DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Gwener 28ain o Chwefror, 2025
(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 03/03/25)
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.