Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod plant a phobl dalgylch Ardudwy yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Cynorthwyo’r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion -
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
• Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.
• Darparu adborth effeithlon i’r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad. Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
• Darparu adborth manwl a rheolaidd i’r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
• Cysylltu â’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
• Cysylltu â’r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion,dosbarth cyfan.
• Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i’r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytûn.
• Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu. • Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio.
• Ymgymryd â rhaglenni sy’n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
• Cefnogi’r defnydd o TGaCh yn nysgu’r disgyblion a’u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio’r offer a’r adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r rhaglenni addysgu a’r gweithgareddau dysgu cytûn.
• Cysylltu’n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda’r athro.
• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
Cefnogaeth i’r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.