Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion sydd ag ADY yn y Blynyddoedd Cynnar.
• Sicrhau gweithrediad yn y maes Blynyddoedd Cynnar drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn y Canolfannau Arbenigol
Dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
Cyd weithio gyda tim bach o Gymorthyddion Arbenigol a Chymorthyddion o fewn y
y canolfanau Arebinigol
Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac Adnoddau parod
• Gweithredu yn unol a chanllawiau Diogelu cadarn
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyd weithio efo’r Uwch Athro/awes Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
• Cynorthwyo’r Uwch Athro/awes Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC)wrth gyd weithio efo’r cymorthyddion arbenigol
• Cyd weithio gyda tîm o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion
• Cyd weithio efo’r Uwch Athro/awes Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC)i gynllunio llyfrgell o adnoddau gwahaniaethol
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau.
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes Blynyddoedd Cynnar, ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; ar lefel ysgol ac o fewn y Canolfannau arbenigol.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn yr ysgol.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion, y Canolfannau Arbenigol a rhieni yn y maes anghenion Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrannu at ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion, unedau a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o ADY yn y maes Blynyddoedd Cynnar.
• Cyd weithio’n agos â'r Uwch Seicolegydd Addysgol Blynyddoedd Cynnar i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ynglŷn â’r llwyth gwaith, gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ein canolfannau arbennig.
• Ymgynghori yn rheolaidd gyda’r Swyddogion Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybdoaeth gyfredol ynglyn a chynnydd y plant, ac anghenion yr Ardal o ran Ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion ac o ddydd i ddydd cymorthyddion y Canolfannau.
• Cyd weithio gyda’r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein hysgolion.
• Sicrhau fod y bas data o’r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y Gwasanaeth yn gyfredol.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC).
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-