Pennaeth Cynorthwyol
Aelod o’r Uwch Dîm Arwain
Rheolwr Cyswllt: Dirprwy Bennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: L12 – L16 [£66,430 - £73,426]
Cytundeb: Parhaol – Llawn Amser
Cyfrifoldebau Penodol i’r Maes Arwain:
Meysydd arwain i'w cadarnhau yn ddibynnol ar brofiadau ac arbenigedd yr ymgeisydd, gan ystyried gweddill aelodaeth yr Uwch Dîm.
Cyfrifoldebau Fel Aelod o’r Uwch Dîm Arwain:
- Bod yn aelod llawn a gweithredol o’r Uwch Dîm Arwain.
- Rhannu a chyfleu’r weledigaeth ysgol a’r cyfeiriad strategol.
- Cefnogi trefn hunan-arfarnu’r ysgol trwy holi disgyblion, craffu ar lyfrau, arsylwi gwersi a theithiau dysgu.
- Adnabod meysydd datblygu a llunio cynlluniau datblygu.
- Gweithredu fel aelod cyswllt rhwng yr UDA a rhai adrannau.
- Cyfrannu’n llawn i drafodaethau UDA ac i strategaethau a blaengareddau datblygol yr ysgol.
- Dangos ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac i lwyddiant Ysgol Syr Hugh Owen yn gyffredinol.
- Bod yn ymwybodol o ofynion Estyn ac yn arddel y safonau addysgol uchaf.
- Ymgymryd a thasgau rheoli, trefnu a gweinyddu rhesymol.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cyflenwi dros aelodau’r Uwch Dîm Arwain fel bo’r gofyn.
- Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd Llywodraethwyr gan gymryd rôl gweithredol mewn cyfarfodydd is-bwyllgorau.
- Llunio a/neu gyfrannu at adroddiadau fel bo’r gofyn.
Cyswllt Maes/Adran/Blwyddyn:
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Williams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda’r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Dydd Mercher, Chwefror 12fed 2025 am 10:00yb
Dyddiad Cyfweld:
I’w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.