Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo er sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon gan sicrhau fod mesuriadau diogelwch priodol mewn lle.
•Goruchwylio a rheoli’r traeth yn ddyddiol gan sicrhau fod defnyddwyr yn cydymffurfio a’r holl is-ddeddfau a rheolau.
•Cynghori’r cyhoedd ar faterion diogelwch, a’u hysbysu a gwybodaeth llanw a thywydd.
•Cofrestru badau pŵer a chyflwyno tocynnau lansio a pharcio.
•Casglu a bancio’r ffioedd a chwblhau'r holl waith gweinyddol cysylltiedig.
•Rheoli a goruchwylio tîm o swyddogion traeth tymhorol yr ardal.
•Darparu cymorth cyntaf sylfaenol a galw cymorth y gwasanaethau brys yn unol â'r gofyn.
•Cwblhau unrhyw dasgau cynnal a chadw yn unol â’r gofyn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am reolaeth a goruchwyliaeth tîm o swyddogion traeth tymhorol.
•Cyfrifoldeb am holl offer diogelwch gan hysbysu'r Uwch Swyddog ar unwaith o unrhyw ddiffygion.
•Cyfrifoldeb am ddiogelwch y trwyddedau cofrestru a lansio ac am gasglu a bancio’r holl ffioedd cysylltiol.
•Cyfrifoldeb am holl offer a chelfi a ddefnyddir i gwblhau tasgau dyddiol gan sicrhau fod cerbydau a chychod y gwasanaeth wedi eu cynnal i safon ddisgwyliedig.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am reolaeth a goruchwyliaeth swyddogion traeth tymhorol.
•Cynghori'r cyhoedd ar faterion diogelwch a’u hysbysu am wybodaeth llanw a thywydd.
•Goruchwylio a rheoli'r arfordir o ddydd i ddydd.
•Sicrhau fod pob bad pŵer wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd cyn caniateir lansio.
•Casglu ffioedd cofrestru a lansio fel y cyhoeddwyd gan y Cyngor gan fancio’r holl incwm a chwblhau’r holl waith gweinyddol cysylltiedig.
•Sicrhau fod gyrwyr bob cerbyd yn talu ffi gyhoeddedig y Cyngor am fynediad i'r traeth.
•Cyflwyno taflenni diogelwch i ddefnyddwyr y traeth.
•Sicrhau fod y traeth yn rhydd o unrhyw beryglon a sbwriel gan sicrhau fod rheolwr yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar unwaith.
•Archwilio holl offer diogelwch arfordirol yn unol â’r drefn a chwblhau’r ffurflenni priodol.
•Cynghori'r cyhoedd ar bolisïau, deddfau ac is-ddeddfau lleol.
•Sicrhau fod y ffurflenni gwybodaeth briodol yn cael eu cwblhau ar ddiwedd pob dydd.
•Ymgynghori yn ddyddiol gyda’r Harbwrfeistr a chynorthwyo fel bo angen.
•Cynorthwyo'r gwasanaethau brys a darparu cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl y galw.
•Sicrhau fod cychod ar y môr yn cydymffurfio a IRPCS/ is-ddeddfau a pholisïau gan hysbysu rheolwyr o unrhyw ddigwyddiadau.
•Cynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw bwiau parth cyflymder ac ardaloedd lansio gan sicrhau bod cychod yn cydymffurfio gyda rheoliadau mordwyo lleol.
•Glanhau cerbydau'r gwasanaeth yn ddyddiol.
•Sicrhau bod gofynion gwobrau traeth yn cael eu cyrraedd.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cydymffurfio ac is-ddeddfau a gorchmynion cŵn.
•Gwaredu a chyrff anifeiliaid o’r arfordir yn unol â’r gofyn.
•Diweddaru gwybodaeth yn yr hysbysfyrddau fel y bydd angen.
•Cyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw waith yn cael ei wneud drwy gydymffurfio yn llawn gydag unrhyw asesiad risg, sustem ddiogel o weithio neu ddatganiad methodoleg.
•Sicrhau bod asesiad risg deinamig yn cael ei weithredu cyn ymgymryd unrhyw dasg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid bod yn barod i weithio penwythnosau, Gwyliau Banc a rhai nosweithiau yn unol â’r gofyn.
•Rhaid hefyd fod yn barod i’w galw allan ar unrhyw adeg mewn achosion argyfwng.
•Bydd oriau gwaith yn 37 awr dros bum diwrnod.