Swyddi ar lein
Harbwrfeistr Cynorthwyol Abermaw
£25,584 - £27,269 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27985
- Teitl swydd:
- Harbwrfeistr Cynorthwyol Abermaw
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Hafan a Harbwr
- Dyddiad cau:
- 25/02/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £25,584 - £27,269 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Swyddfa Harbwr Abermaw
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Daniel Arthur Cartwright ar 01766512927
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 25/02/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Proffesiynol, brwdfrydig, prydlon, destlus, dibynadwy a hyblyg. Y gallu i weithio fel rhan o dîm neu o’i ben a’i bastwn ei hun. mroddedig i gyflawni a chynnal safonau uchel o wasanaeth, caredig, goddefgar, gonest a dibynadwy.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Tystysgrif Cychod Pŵer RYA Lefel 2
Tystysgrif Cymorth Cyntaf
Tystysgrif RYA VHF DSC/GMDSS
Sgiliau Technoleg Gwybodaeth
Trwydded yrru lawn
Dymunol
RYA Cychod Pŵer lefel uwch
RYA Sgiper Dydd neu uwch
Tystysgrif Goroesi ar y Môr
Arnodiad Masnachol RYA
Tystysgrif Badau Dŵr Personol
Tystysgrif Olwynion Sgraffiniol
Cymhwyster Asesiad Risg
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio yn y diwydiant morwrol
Dymunol
Profiad o weithio mewn harbwr neu wasanaeth tebyg
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth am Reoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr.
Gwybodaeth am God Diogelwch Morol Porthladdoedd.
Gwybodaeth am is-ddeddfau harbwr a thraeth.
Gwybodaeth am y Gwobrau Traethau
Dymunol
Sgiliau weldio
Dealltwriaeth a gwybodaeth am Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
Dealltwriaeth a gwybodaeth am Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog ym mhopeth rydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda sicrhau y darperir gwasanaeth o lefel uchel a safon dda i gwsmeriaid gyda holl agweddau o ddarpariaeth gwasanaeth morol yn yr harbwr.
•Cynorthwyo'r Harbwrfeistr drwy sicrhau bod yr harbwr a'r traethau yn cael eu rheoli'n effeithiol o ddydd i ddydd.
•Cynorthwyo i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon amgylcheddol a sicrhau bod mesurau diogelwch addas yn eu lle.
•Cynorthwyo er mwyn sicrhau bod safonau gofynnol traethau Gwynedd yn eu lle a bod yr holl wybodaeth yn gyfredol ac yn cael eu cynnal a’u cadw.
•O bryd i’w gilydd, neu dros gyfnod amhenodol pan fo angen, i weithio yn unrhyw harbwr arall y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am wirio a glanahu cwch patrolio'r harbwr ac offer
•Cyfrifoldeb am wirio a glanhau offer a chyfarpar yr harbwr
•Cyfrifoldeb am gynnal patrolau harbwr ar gwch patrolio'r harbwr
•Cyfrifoldeb am ddirprwyo ar gyfer yr Harbwrfeistr yn absenoldeb y swyddog.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
•Deall a chynorthwyo'r harbwrfeistr wrth ymgymryd â chydymffurfiaeth gyda Chod Diogelwch Morol Porthladdoedd.
•Cyfrifoldeb am sicrhau bod yr holl dasgau gwaith a wneir yn cydymffurfio'n llawn â'r asesiadau risg cysylltiedig, systemau gwaith diogel neu datganiadau dull.
•Cyfrifoldeb am sicrhau bod y gweithrediad cwch yn cydymffurfio'n llawn â'r asesiadau risg cysylltiedig, systemau gwaith diogel neu datganiadau dull.
•Sicrhau bod y dechneg o asesiad risg dynameg yn cael ei gweithredu ar gyfer unrhyw dasg a wneir yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am gynorthwyo i sicrhau bod y cymhorthion mordwyo ar y fynedfa i lanfa'r harbwr yn eu lle cywir.
•Cyfrifoldeb i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw'r cymhorthion mordwyo ar y fynedfa i lanfa'r harbwr.
Cynorthwyo i leoli bwiau marcio parth y traeth a sicrhau bod cerbydau dŵr personol a chychod pŵer yn cydymffurfio â’r holl is-ddeddfau a rheolau’r Cyngor yn yr harbwr ac ar draethau'r ardal.
•Cynorthwyo'r Harbwrfeistr drwy sicrhau bod yr holl angorfeydd yn addas i bwrpas ac wedi'u harchwilio i safonau Cyngor Gwynedd ac yn unol â chanllawiau safonol.
•Sicrhau bod amgylchedd yr harbwr yn cael ei gadw i'r safonau uchaf posib o lendid bob amser.
•Edrych ar daclusrwydd a glanweithdra’r holl dir yng nghyffuniau'r harbwr drwy wneud arolwg dyddiol o'r offer diogelwch, tir gerllaw a chyfleusterau. Adrodd i'r Harbwrfeistr ar unrhyw ddiffygion sy'n cael eu hadnabod.
•Cynorthwyo i lanhau ac arolygu llithrfeydd cyhoeddus, rheiliau, strwythurau a dodrefn yr harbwr. Adrodd am unrhyw ddiffygion neu beryglon sy'n cael eu hadnabod a chwblhau gweithdrefnau gweinyddol cysylltiol.
• Gwirio a chynnal a chadw offer diogelwch y cyhoedd. Sicrhau bod offer diogelwch y Gwasanaeth Morwrol mewn cyflwr sy'n gweithio.
•Cynorthwyo i arolygu offer diogelwch a chynnal a chadw cofnod o'r arolwg.
•Ymgysylltu gydag aelodau o'r cyhoedd drwy ddarparu gwybodaeth am y llanw, tywydd, cerrynt a physgota a chanllawiau cychod ac unrhyw faterion diogelwch eraill megis gwisgo siaced achub a'r defnydd o 'kill cords'.
•Cynghori cwsmeriaid yr harbwr gyda materion yn gysylltiedig â mordwyo a bwiau.
•Ymgymryd â phatrolau rheolaidd o'r harbwr gan sicrhau bod bob cwch yn aros yn ddiogel, gan gynnwys y diogelwch o barthiau, angorfeydd a llinellau angorfeydd.
•Cyd-gysylltu a gweithio gyda'r Asiantaeth Forwrol a Gwarchod y Glannau, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans a'r Bad Achub ac adranau eraill o fewn Cyngor Gwynedd.
•Cydweithredu gydag iardiau cychod lleol, clybiau hwylio, pysgotwyr lleol a gweithredwyr masnachol eraill isicrhau gweithrediadau harbwr effeithiol.
•Darparu tanwydd diesl i gwsmeriaid yr harbwr a chasglu'r ffi angenrheidiol.
•Cynorthwyo gyda chasglu ffioedd lawnsio.
•Cynorthwyo gyda chofrestru cychod a dyrannu trwyddedau yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor.
•Cynorthwyo i sicrhau bod yr holl arian a gasglwyd yn cael ei fancio yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor.
• Cynorthwyo drwy sicrhau diogelwch swyddfa'r harbwr, cyfleusterau storio a holl asedau eraill yr harbwr.
• Gwirio a chynorthwyo i gynnal a chadw'r holl offer a gariwyd gan y cerbyd morwrol. Sicrhau bod y cerbydau morwrol yn lân, yn daclus, wedi'u hail-lenwi â thanwydd ac yn barod i'w defnyddio'n syth.
•Gwneud gwaith cynnal a chadw o fewn yr harbwr ac ar y traethau fel bo’r angen. Cynorthwyo i atgyweirio’r diffygion sy'n cael eu hadnabod.
•Goruchwylio'r harbwr neu'r traeth yn unol â chyfarwyddyd yr Harbwrfeistr.
•Cynorthwyo'r Harbwrfeistr i oruchwylio a chynghori'r staff traeth tymhorol.
•Deall trefniadau ar gyfer tân, cymorth cyntaf ac arllwysiad olew.
•Cynorthwyo gydag unrhyw waith perthnasol sy'n gysylltiedig â rheoli a gweinyddu'r harbwr a'r arfordir yn gyffredinol.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
• Gweithio ar benwythnosau, Gwyliau Banc a rhai nosweithiau.
• Angen gweithio ar rota a baratoir o flaen llaw lle bydd y patrwm shifft yn ddibynnol ar y llanw a'r tywydd.
• Angen gweithio mewn tywydd gwael.
• Angen cynorthwyo i weithio ar unrhyw gwch sy'n ymwneud â harbwr y Cyngor.
• Angen gweithio ar draws Harbyrau a thraethau Gwynedd yn ôl yr angen
• Angen cynorthwyo tu allan i oriau gwaith arferol mewn argyfwng