Gwybodaeth ar gyfer y swydd Pennaeth Dylunio a Thechnoleg a TGCh/Ddigidol
I gychwyn 01/09/25 – (Swydd Llawn Amser Parhaol)
MANYLION AM YR YSGOL
Ysgol uwchradd sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 521 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 60 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.
Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy’n bodoli yn yr ysgol a’r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.
Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org. Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a’r adroddiad diweddaraf gan Estyn.
Datganiad o werthoedd yr ysgol.
Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
- yn hapus ac yn hyderus;
- yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
- yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
- yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.
Nodau.
- Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddod i adnabod ei hunan, i feithrin yr adnoddau cynhenid sydd ganddo i eithaf ei allu ac i oresgyn ei wendidau.
- Creu awyrgylch a fydd yn meithrin ym mhob disgybl berthynas iach gydag eraill, a'i ddysgu i barchu a gwerthfawrogi cymeriadau, talentau a daliadau pobl eraill.
- Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall ddod i adnabod a deall y gymdeithas a'r byd y mae'n byw ynddo ac ennyn ymwybyddiaeth o'i wreiddiau, ei gefndir a'i amgylchedd.
Amcanion
- Datblygu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer pob disgybl a fydd yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, polisïau'r ysgol a pholisïau'r AALl.
- Meithrin a monitro datblygiad pob disgybl drwy'r drefn fugeiliol sy'n bodoli yn yr ysgol i ofalu am les a ffyniant y disgyblion.
- Paratoi'r disgyblion i feithrin y cymwysterau y byddant eu hangen yn y gymdeithas y deuant yn rhan ohoni ac er mwyn iddynt allu cyfrannu'n gyfrifol iddi.
- Datblygu cysylltiadau gyda masnach a diwydiannau lleol a chreu perthynas glos gyda'r rhieni, addysg bellach ac uwch a'r gymdeithas yn gyffredinol
Y SWYDD
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2025
Pennaeth Dylunio a Thechnoleg a TGCh/Ddigidol
Swydd Llawn Amser Parhaol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i’r sawl a benodir arwain ac addysgu Dylunio a Thechnoleg (Gwrthiannol) yn ogystal â Thechnoleg Gwybodaeth/Ddigidol yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster, a CAD 2B (£5747).
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru)
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD GWENER, 7 CHWEFROR, 2025.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 10/2/25
RHAI MANYLION PERSONOL
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod:
- Â chymwysterau priodol i arwain y maes yn yr ysgol.
- Yn frwdfrydig a chreadigol, er mwyn ysgogi a chynnal diddordeb disgyblion yn y maes.
- Yn abl i addysgu’r pwnc i’r ystod oedran llawn.
- Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
- Yn rheolwr dosbarth effeithiol gyda’r sgiliau i sicrhau fod yna awyrgylch gynhaliol yn y dosbarth i hybu’r dysgu.
- Yn deall fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac felly’n barod i addasu’r addysgu i’w hangheni
- Yn weinyddwr trefnus gyda’r gallu i gynllunio gwaith a’i orffen; i asesu gwaith yn rheolaidd a chofnodi hynny’n drefnus; i ysgrifennu adroddiadau manwl a pherthnasol.
- Yn abl i weithio’n annibynnol a hefyd yn barod i gydweithio fel rhan o dîm
- Yn barod i ymateb i ddatblygiadau pynciol lleol a chenedlaethol yn y maes.
- Yn gallu arwain yn strategol ac yn gydwybodol holl agweddau datblygol adran, gan gynnwys yn benodol y cylch datblygu a’r hunan arfarnu.
- Yn meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Statws athro/athrawes cymwysedig
- Yn meddu ar radd safonol mewn maes perthnasol
| | |
DYMUNOL
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar
| | |
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o: - sgiliau rheolaeth dosbarth effeithiol
- gynnal gwersi heriol a diddorol
- ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
- osod a gweithredu disgwyliadau uchel yn gyson
- gynllunio’n llwyddiannus ac yn drwyadl
- gyfrannu at fywyd allgyrsiol ysgol
- gydweithredu fel aelod o dîm
- addysgu’r pwnc hyd at Safon Uwch
| | |
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion a’r datblygiadau addysgol cyfredol yn y maes
- Person egniol gyda’r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
- Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
- Y gallu i sicrhau dysgu o’r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
- Y gallu i ddefnyddio asesiadau’n effeithiol
- Sgiliau rhagorol wrth reoli ymddygiad disgyblion
- Defnydd effeithiol o DGCh
- Y gallu i addysgu’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
- Y gallu i arwain llwyddiant a gwelliant adran trwy brosesau hunan arfarnu.
| | |
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
- Sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf
- Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
- Dymuniad i ddatblygu’n broffesiynol
- Y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol
| | |
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd. Darllen a Deall Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd. Ysgrifennu Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus | | |
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.