Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I Gefnogi Plant a’u Teuluoedd yn y Gymuned
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid ar gyfer gweithgareddau plant. Offer a chyfarpar a ddefnyddir i gludo plant mewn car
Prif ddyletswyddau
•Gweithio yn unol a Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a’r Fframwaith Asesu Plant mewn Angen a’u teuluoedd fel aelod o dimau plant a theuluoedd yn y dair ardal o Wynedd gan gynnwys y Tim Plant yn derbyn gofal.
•Hybu a galluogi Plant a’u Teuluoedd i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
•Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
•Hyrwyddo dewis personol, galluogi plant a’u teuluoedd i wneud penderfyniadau ystyriol ac i rhoi rheolaeth i blant a’u teuluoedd dros benderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy.
•Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
•Sicrhau cysondeb mewn darpariaeth, a chydnabod pwysigrwydd y berthynas rhwng plant, teuluoedd a’r darparwr.
•Cynorthwyo a chefnogi teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant.
•Pan fo plentyn yn cael ei dderbyn i ofal yr awdurdod, gweithio mewn partneriaeth a’r rhieni i ddychwelyd y plentyn yn ol i’w gofal yn gynnar.
•Lleihau risg blant a’u teuluoedd drwy weithio fel rhan o gynllun amddiffyn aml asiantaethol.
•Darparu gwasnaneth goruchwylio cyswllt rhwng plant sydd yn derbyn gofal a’u teuluoedd fel rhan o gynllun gofal llys.
•Paratoi adroddiadau manwl ar gynnwys cyswllt a phlant a’u teuluoedd a chynnwys yr adroddiaidau yn ffeil y plentyn.
•Mynychu cyfarfodydd tim ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Adnoddau.
•Derbyn goruchwyliaeth gyson.
•Ymgyfarwyddo a pholisiau, trefniadau a chanllawiau’r Cyngor ynglyn ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi yn ol cyfarwyddyd.
•Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i’r swydd ac sydd er lles a datblygiad y plentyn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen gweithio oriau hyblyg, dros y penwythnosau ac ar wyliau banc fel bo’r angen.(Gweithio 37 awr dros 5 diwrnod o’r wythnos