YSGOLION UWCHRADD
YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib- Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 ( 3 SWYDD )
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£14,420 - £14,648 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i’w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD IAU, 30 O IONAWR, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).