Swyddi ar lein
Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni
£44,711 - £46,731 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27945
- Teitl swydd:
- Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 06/02/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £44,711 - £46,731 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni
CYFLOG: PS4 (35-37) £44,711-£46,731
Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod
Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberaeron, Newtown, i gynnwys gweithio hybrid
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Rheolwyr Brosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Jill Jones ar 07554773937.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU 6 Chwefror 2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar â’r gallu i gymell ei hun
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau amrywiol
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol
neu
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddolDYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoliPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol mewn reoli a chyflawni cynlluniau gwella isadeiledd
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
Profiad o weinyddu contractau a prosiectau chaffaelDYMUNOL
Profiad o reoli fframwaith contractau
Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch er mwyn cyflawni rhaglenni neu gynlluniau gwaith amlddisgyblaetholSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigedd
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol.
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect.
Gwybodaeth drylwyr o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC.
Gwybodaeth am gyflwyno prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.GOFYNION IEITHYDDOL
Gwrando a siaradCymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau amlddisgyblaethol yr Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
• Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
• Cefnogi’r Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglenni gyffredinol o brosiectau refeniw a chyfalaf yr Asiant.
• Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar weinyddu contractau a chaffael prosiectau.
• Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
• Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad i monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
• Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunir.
• Bod yn rheolwr prosiect i’r gwasanaethau contractwyr a ymgynghorwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.Cyfrifoldeb dros swyddogaethau . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (darparwyr gwasanaeth LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
• Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol.
• Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiant.
• Rheoli basdata y Fframwaith Contractau.Prif Gyfrifoldebau .
Rheoli ProsiectYmgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl gontractau’r Asiant a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
• Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais penodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni;
• Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect;
• Arddel egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2;
• Cysylltu gyda darparwyr Awdurdod Partneriaid a sector preifat ynghylch prosiectau yn cynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol;
• Cysylltu gyda’r Uned Cyflawni ac Archwilio yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau;• Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i gau prosiectau, yn cynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel yr adeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant i weinyddu contractau a phrosiectau chaffael.
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunir. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:
• Adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid a pharatoi prosiectau brîff.
• Sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
• Cytuno ar raglen a brîff y prosiect.
• Cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni.
• Cysylltu â staff perthnasol LlC.
• Bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect a rheoli’r gyllideb yn eu cyfanrwydd.
• Cytuno ar a chymeradwyo iawndal.
• Adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol.
• Derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
• Cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
• Adrodd ar y gwariant hyd yn hyn, a phroffil gwariant y dyfodol wrth Uned Fusnes yr Asiant.
• Trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
• Adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
• Sicrhau y caiff prosiectau eu cau’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglen
Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi y Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).Galluogi i gyflawni’r rhaglenni drwy y gwasanaeth caffael ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth.
Dyletswyddau Technegol EraillCynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, a monitro ac adnewyddu fframwaith contractau yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system prosiectau rheoli SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn eu gweithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac cwblhau y gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynllun drwy broses fidio’r Asiant.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiant, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, yn cynnwys:
• Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
• Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
• Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
• Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
• Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
• Contractau NEC4
• Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
• Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMARheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau ar gyfer archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle mae diffyg perfformiad gan y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol ar bob achlysur.Cyffredinol
Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda budd-ddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
• Cyfrifol am hunanddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw’r rhestr uchod. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.Amgylchiadau Arbennig . e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati.
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).