Swyddi ar lein
Pennaeth Mathemateg - Ysgol Glan y Môr
£32,433 - £49,944 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27917
- Teitl swydd:
- Pennaeth Mathemateg - Ysgol Glan y Môr
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 29/01/2025 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £32,433 - £49,944 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
Manylion
Hysbyseb Swydd
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1af Medi 2025
Pennaeth Mathemateg
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig i fod yn gyfrifol am yr adran Mathemateg.
Oriau gwaith: Llawn Amser
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster. Bydd CAD 1B (£9,955) yn ychwanegol.
Mae’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mr. Guto Wyn 01758 701244.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD MERCHER, 29 IONAWR, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.DYMUNOL
Yn datblygu diddordebau personol addas oddi fewn i gymuned yr ysgol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol i’r swydd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
Hyfforddiant rheolaethol berthnasol.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.DYMUNOL
Profiad blaenorol o arwain adran neu maes dysgu.
Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Trwy weithio o dan gyfarwyddyd y pennaeth a chydweithio â’r UDA ac athrawon eraill mae pob athro dosbarth yn gyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion, cyllideb yr adran
Prif Ddyletswyddau.
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn), i wiriad DBS cadarnhaol, i aelodaeth cyfredol o’r CGA ac i gydymffurfio’n llwyr gyda’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol maen nhw’n ei gynnal ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae’n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau’r ysgol.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Prif Gyfrifoldebau Pennaeth Adran Mathemateg
Dyletswyddau penodol: Arwain yr adran yn effeithiol. Golyga hyn:
Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd
• ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol a thrwy hynny ddatblygu a chynnal tîm effeithiol o
athrawon sy'n ymdrechu i hybu'r dysgu a'r addysgu i'r safon uchaf.
• ddatblygu ac ymestyn arfer addysgu athrawon eraill yn y maes dysgu drwy rannu a lledaenu arferion da.
• arwain, cydlynu a chymryd rôl flaenllaw wrth baratoi cynlluniau gwaith o fewn yr adran
• gefnogi’r UDA wrth weithredu blaenoriaethau ysgol gyfan
• gynghori'r UDA am ddatblygiadau yn y maes
• gadeirio ac arwain cyfarfodydd cyfadran - darparu agenda a chofnodion ar gyfer staff, y Pennaeth a'r Aelod Cyswllt o’r Uwch Dim Rheoli.
• gynnal a chefnogi staff yr adran
• lunio adroddiadau hunan arfarnu ar waith yr adran yn unol â'r drefn traws-ysgol. Gweithredu ar y canfyddiadau.
• ddatblygu trefniadau ar gyfer disgyblion ag ADY yn yr adran, gan gynnwys ymateb i anghenion unigol disgyblion drwy gydweithrediad â'r Cydlynydd,
• lunio Cynllun Datblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad sy’n ymateb i ganfyddiadau’r hunan arfarnu.
• weithredu’r Cynllun Datblygu yng nghyd-destun datblygiad ysgol gyfan.
• chwarae rhan allweddol fel pennaeth maes dysgu a phrofiad yn natblygiad pob agwedd o fywyd yr ysgol.
• hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.
• ofalu fod athrawon dan hyfforddiant ac Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn yr adran yn cael eu
cynnal, eu monitro a'u harfarnu, yn unol â threfn yr ysgol.
• gyfrannu at ddatblygu a sicrhau arferion cadarn mewn datblygu medrau rhifedd yn draws ysgol ac mewn sicrhau safonau medrau cadarn gan ddisgyblion o fewn eu rhifedd.Cynlluniau Gwaith
• ddatblygu cynlluniau gwaith cynhwysfawr sy’n cyflawni gofynion y Cwricwlwm i Gymru, yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu ac addysgu sy'n cynnig profiadau cyfoethog trawsgwricwlaidd i'r disgyblion, sy’n cyfeirio at ofynion pynciol ond hefyd at ddatblygiad sgiliau, yn rhoi sylw amlwg i lythrennedd, rhifedd, TGCH a sgiliau dysgu yn ogystal â`r sgiliau allweddol ehangach, ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau asesu ar adegau allweddol sy'n fodd i fesur yn gywir gynnydd disgyblion.
• ddatblygu polisïau adrannol/cyfadrannol gweithredol.Monitro a Hunan Arfarnu
• fonitro ansawdd yr addysg yn yr adran gan hybu addysg effeithiol ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• fonitro gwaith yr adran drwy arsylwi gwersi, craffu ar waith disgyblion, marcio ar draws yr adran, canfod barn dysgwyr ac unrhyw ddull perthnasol arall, ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• sicrhau fod yr arfarniad adrannol yn gyfredol.
• godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion ar draws yr holl ystod gallu o fewn yr adran, monitro a chefnogi cynnydd disgyblion, ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• roi ar waith bolisi asesu a gosod targedau'r ysgol, gan wneud defnydd effeithiol o'r data i fonitro, gwerthuso ac ymestyn gallu disgyblion yn y maes.
• fod yn atebol am gynnydd disgyblion yn y maes dysgu
• gynnal a chefnogi disgyblaeth a chanmoliaeth disgyblion o fewn y maes dysgu.
• ddefnyddio ystadegau i ddadansoddi cryfderau a gwendidau y ddarpariaeth gyfadrannol a chydweithio â holl staff y gyfadran a`r UDA i addasu yng ngoleuni`r dadansoddiad hwnnw.
• arfarnu cyrsiau’r adran yn rheolaidd mewn ymgynghoriad â’r athrawon pwnc.Delio â Thangyflawni
• arwain a chydweithio ag aelodau eraill y gyfadran i gynnal a hybu cymhelliant a delio`n effeithiol â thangyflawni.
• gefnogi, cynnal a datblygu staff yr adran mewn cydweithrediad â’r Tiwtor Proffesiynol.Rheolaethol
• sicrhau gweinyddiaeth effeithiol.
• sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau dynol a chyllidol yr adran.
• baratoi adroddiadau ar waith yr adran yn ôl y galw.
• gyfarfod yn rheolaidd â’r aelod cyswllt o’r Uwch Dim Rheoli a’r Llywodraethwr Cyswllt i drafod materion strategol
• Gweithredu fel Arfarnwr yn y drefn Rheoli Perfformiad lle bo'n cyd-fynd â threfn yr ysgol.
• Cydweithio'n effeithiol gyda'r swyddog arholiadau.
• gynrychioli’r adran a gwneud cyfraniad ar lefel ysgol gyfan mewn cyfarfodydd yn ôl y galw.
• Cydweithio gydag ysgolion cynradd i sicrhau dilyniant esmwyth wrth drosglwyddo.Pynciau Penodol o fewn yr Adran
Mae’r Adran yn paratoi disgyblion tuag at y cymwysterau canlynol;
• TGAU, Lefel Mynediad a chymwysterau eraill ar y fframwaith cymwysterau
Mae’r adran hefyd yn rhan greiddiol o waith yr ysgol wrth gynllunio i sicrhau medrau rhifeddcadarn ymysg ein disgyblion.
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â’r swydd fel athro/athrawes dosbarth fydd:
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw’r person priodol at unrhyw broblem.
• Cynnig addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
• Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw’r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
• Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, gan gynnwys paratoi disgyblion ar gyfer profion neu arholiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
• Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
• Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i’r dosbarth a’u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
• Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i’w g/ofal hyd eithaf ei allu.
• Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
• Cynnal disgyblaeth yn unol â’r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
• Cyfrannu at drefniadau’r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
• Cymryd rhan yn nhrefniadau’r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
• Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
• Cynghori, arwain a chydweithio â’r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy’n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
• Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a’r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
• Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau’r ysgol.
• Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
• Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
• Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu’r ysgol i fod yn ganolfan sy’n cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio’n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
• Cyfrannu gyda’r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:- rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol â nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
- gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.