Pwrpas y Swydd
• Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor. Cyfrifoldeb am y preswylwyr yn ystod oriau nos yn absenoldeb y rheolwr
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr cofrestredig neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif Ddyletswyddau
• Sicrhau a pherchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.
• Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
• Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
• Bod yn rhan o’r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynhadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
• Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
• Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
• Ymgymeryd a'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi'r Cyngor.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol. A sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.
• Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr Cofrestredig y Cartref.
• Ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor yngly^n ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
• Wrth ddod ar ddyletswydd ymgydnabyddu a chyflwr cyffredinol yr holl breswylwyr a’r sefyllfa gyfredol o fewn y cartref.
• Derbyn defnyddwyr newydd i’r cartref mewn amgylchiadau brys.
• Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol