Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I weithio gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Arfon a defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned drwy ddilyn
cynlluniau gofal unigol, sydd wedi eu llunio gan y rheolwyr gofal, defnyddwyr gwasanaeth ac eraill, yn unol â
ymarfer da fel a amlinellir yn Strategaeth Iechyd Meddwl a Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru. I fod
yn rhan o wasanaeth amlddisgyblaethol sy’n cael ei gynnig yng ngwynedd drwy gefnogi a galluogi pobl sydd a
phroblemau iechyd meddwl i fyw bywyd, annibynol, cyflawn a ystyrlon yn eu cymunedau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cefnogi a hybu pobl gyda salwch meddwl dwys I fyw yn annibynol yn y gymuned
•Trwy rhaglen gofal I wneud gweithgareddau sy’n galliogi’r person I wella o’r salwch. Mae’r aelod proffesynnol o’r tim yn gyfrifol am ddarparu rhaglen gofal.
•Mae’r gweithwyr cefnogol yn helpu y Rheolydd gofal I drin y person trwy therapi er mwyn gwella eu
amgylchiadau ai salwch.
Prif ddyletswyddau
•Cynnig cefnogaeth i unigolion neu grwpiau yn unol a Cynllun Gofal Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ar gyfer
Gwasanaethau Oedolion Gyda Salwch Meddwl.
•Gweithredu mewn dull sydd yn parchu urddas yr unigolyn.
•Cymeryd camau rhesynol i sicrhau iechyd, diogelwch a lles defnyddiwr y gwasanaeth a nhw eu hunain, oddi
mewn ac oddi allan y cartref yn unol a’r cynllun gofal.
•I weithio mewn partneriaeth gyda cydweithywr ym maes iechyd meddwl, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol
iechyd meddwl, nyrsus seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, ac ymgynghorwyr
seiciatryddol.
•Cymeryd rhan gweithredol yn y broses o asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag
anghenion defnyddiwr y gwasanaeth a nodir yn y Cynllun Gofal. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymeryd
rhan mewn rhaglenni therapi ymddygiadol cognitif, therapi seico-gymdeithasol, ac ymyrraethau teuluol.
•Annog a chefnogi defnyddwyr y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol er mwyn eu galluogi i fyw yn
llwyddiannus oddi mewn y gymuned, trwy osod amcanion, datrus problemau, dadsensiteiddo adeiladweithiol, a dysgu sut i adnabod p’ryd mae pobl yn dechrau mynd yn sal.
•Mynychu goruchwyliaeth cyson gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Cefnogol yn ymwneud a rheolaeth pwysau
gwaith ac ymarfer, yn ogystal a mynychu cyfarfod misol Gweithwyr Iechyd Meddwl.
•Bod yn gyfrifol am gynnal yr holl waith gweinyddol yn unol a’r canllawiau a’u gosodir gan y Rheolwr Gwasaneth Cefnogol ar ran Cyngor Gwynedd.
•Bod yn gyfrifol am gynnal portfolio iechyd meddwl gan gynnwys tystiolaeth o ymarfer effeithiol gellir ei
ddefnyddio wrth baratoi ar gyfer NVQ.
•Mynychu gweithhgareddau hyfforddi a chytunir ar y cyd a’r Rheolwr Gwasanaethau Cefnogol fel rhan o
ddatblygiad parhaol.
•Parchu a chynnal cyfrinacholdeb yn unol a chanllawiau Cyngor Gwynedd ar bob achlysur.
•Er mwyn sicrhau ffiniau priodol, cyfyngir cysylltiadau i’r hyn a nodir yn y Cynllun Gofal.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf
Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Hybu pethynas gyda chyd weithwyr yn y tim Iechyd Meddwl.
•I Ddeall ac annog hyrwyddo egwyddorion Cyngor Gwynedd.
•I Fuddsoddia gwella gwybodieth a’r gwaith wrth weithio gydag unigolion a salwch meddwl. Byddwch yn
•ymwybodal ac ymwybodol o waith ymchwil a ffyrdd newydd o weithio.
•Gweithio gyda’n gilydd gyda’u personol yn unol a’r trefniadau tim.
•Bydd Angen gweithiau tu allan I oriau swyddfa.