Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cefnogi disgyblion sydd ag ADY yn y Blynyddoedd Cynnar yn ysgolion a chanolfannau Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynwysiad.
Gweithredu’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda’r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytun. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolyn/ grwpiau a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac drodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
Cynnig arweiniad a chefnogaeth er mwyn rheoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cynorthwyo’r Uwch Athrawes Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) efo dyletswyddau rheoli cymorthyddion addysgu eraill
• Ymgymryd a recriwtio/ anwytho/ gwerthuso/ hyfforddi/ mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
• Ffôn symudol.
• Gliniadur
• Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
• Offer TGCh i gefnogi dysgu’r disgyblion
Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Ddisgyblion
• Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC), Uwch Seicolegydd Addysgol yn unol â gofynion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) ac Uwch Seicolegydd Addysgol, yn unol â gofynion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) pan fo’r Athrawes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
• Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Blynyddoedd Cynnar ac asiantaethau eraill perthnasol.
• Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda’r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Blynyddoedd Cynnar.
• Cefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion ychwanegol.
• Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas a chynnydd a chyflawniad.
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion a chydweithwyr.
• Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.
• Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â’u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.
• Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.
Cefnogaeth i Athrawon
• Ymweld ag ysgolion i gefnogi disgyblion ag ADY.
• Cefnogi mynediad disgyblion i ddysgu drwy ddefnyddio strategaethau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol.
• Gweithio gyda staff eraill megis athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol i gynllunio, arfarnu ac addasu deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo’n briodol.
• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
• Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd â staff eraill, cyfrannu at arolygu systemau/cofnodion fel bo’r gofyn.
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau yn y maes hwn.
• Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg a’r Athrawon Arbenigol o fewn y Tîm Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC).
• Cefnogi rhan rhieni yn nysgu’r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/ arwain cyfarfodydd gyda rheini i ddarparu adborth adeildadol ar gynnydd/ cyflawniad disgyblion.
• Cefnogaeth glerigol/weinyddol, e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd gwybodaeth berthnasol, gwneud galwadau ffôn, ayyb.
• Gweinyddu ac asesu/ marcio profion a goruchwylio arholiadau/ profion
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau ayyb
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/ anghenion y disgyblion.
• Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i’r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
Cyffredinol:
• Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynwysiad.
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
• Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.