Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydyn yn ei wneud.
• Arolygu a chadw trefn ar y disgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl prydau, gan gynnwys arolygu yn y maes chwarae neu yn y neuadd a’r dosbarthiadau yn ystod tywydd gwlyb.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Prif Ddyletswyddau.
• Tywys y plant i’r ystafell fwyta a chynorthwyo’n gyffredinol yn y ffreutur tra bydd y bwyd yn cael ei weini.
• Sicrhau fod y plant yn dod i mewn a gadael y ffreutur/neuadd mewn modd rheoledig, a thawel.
• Gyda babanod, bydd y dyletswyddau’n cynnwys cario platiau bwyd at y byrddau (os nad oes
trefniadau eraill wedi eu gwneud gan y Pennaeth), torri cig ayb, hyfforddi’r plant i ddefnyddio cyllyll a ffyrc.
• Sicrhau nad ydyw’r plant ar unrhyw adeg heb arolygaeth.
• Wedi i’r disgyblion fwyta, sicrhau bod trefniadau clirio byrddau yn cael eu gweithredu.
• Annog cwrteisi a moesau da, gan gynorthwyo lle bo angen.
• Ymdrin ag unrhyw fân ddigwyddiadau gyda disgyblion, neu adrodd ar y digwyddiadau i berson dynodedig/
Pennaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.