SWYDD: Gofalwr yr Ysgol AMODAU GWAITH: Amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff GPT ac Ch a gweithwyr llaw. ATEBOL I: - Y Pennaeth drwy’r rheolwr busnes.
CYFRIFOLDEB : CYFLOG : GS 3 (pwyntiau 5 i 6)
ORIAU : 37 awr yr wythnos (sifft ranedig) GWYLIAU : Yn ystod gwyliau ysgol (20 diwrnod yn codi i 25 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor)
DYLETSWYDDAU
Bydd pob aelod o staff yn yr Ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn ôl polisïau’r Ysgol.
Pwrpas y Swydd :
• Goruchwylio adeiladau’r Ysgol i sicrhau fod yr adeilad yn ddiogel.
• Bydd y gofalwr yn gyfrifol am sicrhau rhediad effeithiol yr Ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i’w ddefnyddio.
• Ymgymryd ag agweddau o waith glanhau achlysurol o fewn ei oriau gwaith pan na fydd y glanhawyr cyflogedig ar y safle er mwyn sicrhau glendid fel modd o hybu iechyd.
• Monitro diogelwch a chyflwr yr adeilad.
• Rheoli gofynion iechyd a diogelwch
• Rheoli a gofal dros gontractwyr allanol sydd yn gweithio ar y safle.
• Cynnal a Chadw
• Delio ag argyfyngau cyffredinol
• Bws mini'r Ysgol
• Dal goriadau yr Ysgol ac ateb galwadau allan i ymateb i larwm yn canu.
• Cyn agor yr ysgol yn y bore datgloi’r drysau allanol a drysau mewnol.
• Agor a chau'r safle tu allan i oriau arferol ysgol.
• Gosod larymau lladron pan fo’r ysgol ar gau.
• Ceisio rhwystro tresmasi ar dir ac adeiladau’r ysgol.
Gwres, Golau a Gwasanaethau Mecanyddol
• Yn ystod cyfnodau twymo’r adeilad – sicrhau bod y system wresogi yn gweithio yn addas, delio ag unrhyw ddiffygion a welir i wresogyddion unigol neu i’r system wresogi yn gyffredinol, sicrhau fod y systemau twymo canolog wedi eu gosod yn briodol fel y bo’r tywydd yn mynnu.
• Sicrhau fod gwresogyddion ac yn y blaen yn glir o offer fyddai’n llosgi.
• Cadw golwg ar y defnydd o drydan, nwy a dŵr a nodi darlleniad mesuryddion yn fisol ar gardiau fel y gellir mesur y defnydd.
• Cadw ystafelloedd boiler ac offer cynhesu yn lân a thwt ac yn glir o offer fyddai’n llosgi.
• Sicrhau fod cyflenwad digonol o danwydd ar gael, gan hysbysu'r Rheolwr Busnes o’r angen i archebu tanwydd mewn amser rhesymol.
• Peipiau wedi rhewi : troi cyflenwad dwr i ffwrdd a hysbysu Adran Eiddo a Rheolwr Busnes o’r sefyllfa fel y gellir trefnu i atgyweirio.
• Boeleri : galw peirianwyr gwasanaethau allan mewn argyfwng. Dylid hysbysu'r Adran Eiddo a Rheolwr Busnes pan ddigwydd hyn.
• Systemau Dosbarthu Gwasanaeth : ailosod bracedau, peipiau a rheiddiaduron, glanhau offer cynhesu a hidlyddion.
• Cynnal, gwasanaethu ac ailosod larwm tân argyfwng, gan gynnwys ailosod gwydr mewn blychau.
• Bws Mini'r Ysgol : sicrhau bod y bws yn cael ei gadw’n lân ac mewn cyflwr priodol trwy gadw golwg wythnosol ar lefelau’r dŵr, olew, pwysau awyr y teiars, cyflwr cyffredinol y teiars a’r gwregysau diogelwch, ac arwyddo bod hyn wedi’i wneud.
Glanhau a Chynnal Allanol
• Yn ddyddiol clirio a glanhau pob man allanol dan do, cyntedd a llefydd chwarae caled, o offer a allai fod yn beryglus neu yn anharddu’r safle, e.e. caniau gwag, gwydr wedi torri a photeli.
• I gadw pob lle chwarae caled, ffyrdd, llefydd parcio, llwybr, corlannau, tanciau a photeli nwy ac yn y blaen yn glir o chwyn, cerrig rhydd, ysbwriel, e.e. gwydr, tuniau, poteli, papur, dail, gwellt ac ysbwriel arall. I glirio eira fel y bo angen a gwasgaru halen i sicrhau llwybrau clir a diogel tuag at yr adeilad yn ystod cyfnodau o eira neu rew.
• Gwagio biniau allanol i fagiau plastig fel y gellir eu gwaredu. Gosod bagiau plastig newydd. Cynnal a chadw biniau ag offer arall dal ysbwriel ac yn y blaen.
• Palu a chwynnu gwelyau blodau a llefydd eraill wedi’u plannu i sicrhau eu bod yn glir o chwyn. Bydd y tasgau yma yn cynnwys plannu, tocio a chynnal planhigion, llwyni a blodau yn gyffredinol.
• Gwaith glanhau lloriau ac ystafelloedd yn ôl y galw.
• Glanhau y tu allan i ffenestri allanol.
• Gwaith coed a metel allanol : cynnal arwyddion, giatiau ac offer allanol eraill.
• Offer dal ysbwriel mawr : gofalu eu bod yn cael eu clirio a’u gosod yn ôl yn y llefydd cywir. Hysbysu’r ymgymerwr lle i osod sgip a bod y sgip yn cael ei ddefnyddio’n briodol. Sicrhau fod sachau bin yn cael eu rhwymo’n briodol pan yn llawn.
• Draeniau prifion : sicrhau fod draeniau a chwterydd yn glir ac yn llifo’n rhydd.
• Atgyweirio a chynnal man ddifrod i ffensys.
• Cynnal a chadw llefydd chwarae caled, e.e. ail-osod slabiau palmant.
Dyletswyddau Cario
• Sicrhau fod cyflenwad digonol o dyweli papur, papur toiled a sebon yn y llefydd priodol drwy’r ysgol.
• Symud parseli, dodrefn mewn ystafelloedd a pharatoi’r neuadd ar gyfer gwasanaethau ac arholiadau.
• Derbyn nwyddau/dodrefn ac ati a archebir gan yr ysgol gan gyflenwyr, a’u rhannu i’r staff/ystafelloedd priodol, unwaith maen’t wedi ei gwirio gan y Swyddog gweinyddol.
Cynnal a Chadw
• Adrodd i’r Pennaeth ar unrhyw ddifrod a welir i eiddo’r ysgol ac am nam i ddraeniau ac yn y blaen na all y gofalwr eu trin.
• Mân atgyweirio mewnol ac allanol i sicrhau edrychiad twt.
Ailosod plygiau, ffiwsys, bylbiau a thiwbiau trydan, lampau a gorchuddion goleuadau fel y bo angen.
Tynnu aer o reiddiaduron.
Gosod wasieri newydd fel y bo angen.
Offer toiledau : ailosod wasieri, plygiau a chadwyni.
Peipiau dwr wast : glanhau trapiau, peipiau dwr wast, carthffosiaeth.
Falfiau cawodydd : mân atgyweirio a thrwsio falfiau, trwsio neu ailosod tapiau ag offer cawodydd.
Nenfydau : ailosod teils nenfwd a mân atgyweirio plaster.
Paentio : paratoi a phaentio plaster mewnol, gwaith coed a dodrefn.
Platiau enw, bleindiau, llenni ac ati : atgyweirio, amnewid a glanhau arwyddion mewnol, traciau llenni a bleindiau.
Gosodion pren mewnol : atgyweirio a gosod unedau cegin, cadeiriau, byrddau a desgiau, cypyrddau, silffoedd, byrddau arddangos, meinciau, cownteri ac ati.
Offer mewnol : cynnal ac adnewyddu offer dal papur toiled, tyweli, drych ac offer ffenestri a drysau.
Gwydro : byrddio ffenestri dros dro pan fydd y gwydr wedi torri ac os yn bosibl ail-osod chwareli bychan o wydr.
Gorchuddion lloriau : atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgertin, blaen grisiau, carped, gorchuddion thermoplastig ac ati.
Cynnal a chadw a glanhau trapiau, gwterydd a draeniau gan gynnwys rhodio. Bydd yn rhaid rhoi sylw arbennig i drapiau yn y labordai, gweithdai ac ystafelloedd Technoleg Bwyd.
I gadw trapiau, gwterydd, peipiau dwr glaw yn glir ac ailosod landerau a pheipiau.
• Yn achlysurol archwilio cyflwr dodrefn ac adrodd i’r Prifathro am unrhyw ddiffygion amlwg a welir.
• Gofalu fod offer ymladd tân yn y llefydd priodol fel y nodir gan y Prif Swyddog Tân. Hysbysu’r Prifathro os oes diffoddwyr tân wedi’u gollwng.
Arolygu
• Cadw manylion o fân atgyweiriadau sydd angen eu gwneud a’r contractwyr sy’n ymweld â’r ysgol.
• Cyfeirio gweithwyr ac ymgymerwyr â’r safle i’r llefydd gwaith.
• Gofalu fod offer a ddarperir ar gyfer gwaith gofalu a glanhau yn ymddangos yn ddiogel a hysbysu’r Prifathro o unrhyw ddiffygion a ddaw’n amlwg.
Argyfyngau
• Sicrhau mynediad i’r ysgol neu’r dosbarthiadau fel y bo angen mewn adegau o eira, llifogydd neu argyfyngau cyffelyb.
• Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn achlysuron o dân, llifogydd, torri mewn, damweiniau neu ddifrod. Gwybod am leoliad offer a defnyddiau cymorth cyntaf, tapiau a llefydd troi cyflenwadau i ffwrdd.
Cyffredinol
• Ymgymryd â’r gwaith gan achosi cyn lleied ag sydd modd o drafferth i drefn yr ysgol a defnyddwyr gyda’r nos.
• Bod o gwmpas a chadw llygad ar ymddygiad plant yn gyffredinol gan adrodd i’r Pennaeth neu athrawon eraill os cyfyd problemau.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd a chais y Pennaeth neu ei gynrychiolydd.
Sylwch : Ni ddylid gweithio ar uchder uwch na 11 troedfedd uwchben y llawr oni fod offer dringo addas a diogel yn cael ei ddarparu.
Rheolwr Safle
• Cynghori’r Pennaeth ar bob agwedd yn ymwneud â’r adeiladau a’r tiroedd.
• Archwilio’r adeiladau’n gyson a nodi unrhyw ddiffygion a threfnu sylw buan i’w cywiro.
• Trefnu amcangyfrifon/tendrau ar gyfer gwaith gan adrodd ar y rhain i’r Rheolwr Busnes cyn ymrwymo i unrhyw waith.
• Cydlynu trefniadau cynnal a chadw’r adeilad a’r tiroedd gan oruchwylio gwaith contractwyr gyda chymorth y Clerc Gwaith.
Cyd-gysylltydd Iechyd a Diogelwch
• Cyflawni archwiliadau cyson yn unol â pholisi’r ysgol. Llunio adroddiadau ac argymhellion i’r Pennaeth.
• Hybysu adrannau perthnasol, staff cynnal a chadw mewnol neu adain Eiddo'r Cyngor fel bo’n briodol, er mwyn sicrhau y gweithredir ar y mater.
• Sicrhau fod y cyfarpar lladd tân yn ei le ac wedi’i gyflenwi’n briodol, cyflawni ymarferion tân yn rheolaidd ac o leiaf unwaith y tymor.
• Sicrhau fod trefniadaeth ddiogelwch yr ysgol, trefniadau goruchwylio, archwiliadau cyfnodol neu brofion o systemau diogelwch yn gweithio ac yn effeithiol.