Swyddi ar lein
Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27876
- Teitl swydd:
- Arweinydd Ansawdd Diogelu a Llesiant
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 03/01/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- -
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyflog: Graddfa Soulbury 13 - 19 (AD13-16/19) - £56,976 - £61,106/£65,097
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern Ap Rhisiart ar 01286 679958 neu drwy e-bost: GwernApRhisiart@gwynedd.llyw.cymru
Cyfweliadau i’w cynnal: 08/01/2025
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 03/01/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda’r gallu i gyflwyno gwybodaeth allweddol mewn ffordd eglur, glir a chryno yn hyderus.
•Person sydd yn gallu cyd weithio a chymysgu yn hawdd â phobl gan ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
•Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
•Person egnïol a hyblyg ei natur.
•Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant.
•Dymuniad i ddatblygu’n broffesiynol yn barhaus.
•Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
•Agwedd hyblyg gyda’r gallu i weithio’n annibynnol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Statws athro neu athrawes gymwysedig neu brofiad proffesiynol cyfatebol
•Gwybodaeth amlwg am bolisi cyfredol y llywodraeth ynghylch plant sy'n derbyn gofal ac addysg
•Cymhwyster CPCP
Dymunol
•Cymhwyster ôl-raddedig
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad sylweddol o weithio gyda phlant o grwpiau bregus mewn ysgolion neu leoliadau addysgol eraill
•Profiad o weithio fel rhan o dîm llwyddiannus
•Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
•Profiad mewn rôl arwain uwch mewn ysgol neu leoliad addysgol arall e.e. Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth adran/Blwyddyn ac ati.
•Profiad mewn rôl arwain uwch
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion a’r datblygiadau addysgol cyfredol gan gynnwys y cwricwlwm newydd
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion a’r datblygiadau yn y maes diogelu fel ei amlygir yn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
•Sgiliau cyfathrebu cryf i allu datblygu dulliau cyflwyno ac ymgysylltu gan gynnwys dulliau digidol
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisi cyfredol y llywodraeth ynghylch plant sy'n derbyn gofal ac addysg
•Sgiliau dadansoddi ac adrodd ar berfformiad dysgwyr.
Dymunol
•Dealltwriaeth o lwyfan Hwb Llywodraeth Cymru
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Arwain y tîm y mae’n gyfrifol amdano i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
•Gweithredu fel Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu yr Adran Addysg.
•Bod yn gyfrifol am yr arweiniad strategol a chefnogaeth arbenigol i ysgolion ac Adran Addysg Gwynedd yn y maes diogelu.
•Sicrhau ansawdd trefniadau diogelu’r Adran Addysg a lleoliadau addysg Gwynedd.
•Sicrhau cynnydd grwpiau bregus o ddysgwyr gan gynnwys Plant Mewn Gofal.
•Goruchwylio a hybu buddiannau addysgol pob plentyn ac yn enwedig felly plant o grwpiau bregus.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheolwr Llinell i 2 o Swyddogion Diogelu a Llesiant Addysg
•Laptop, Ffon Symudol
Prif ddyletswyddau
ARWAIN
•Bod yn atebol am y tîm a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.
•Arwain staff y tîm drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd.
•Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff.
•Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt.
•Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen.
•Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol.
•Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
•Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
•Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny.
•Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
•Recriwtio a datblygu unigolion a’r tîm i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol.
•Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol.
•Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
•Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad.
•Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib.
•Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gydag ac o fewn y tîm
CYFLAWNI
•Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny.
•Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad.
•Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni'r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys.
•Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
Arwain y gwaith o sicrhau bod staff yr Awdurdod sy’n gweithio â phlant yn derbyn hyfforddiant i’w harfogi i gyflawni eu cyfrifoldebau amddiffyn plant yn effeithiol.
Arwain ar a chyfrannu at Hyfforddiant Amddiffyn Plant
•Paratoi ac adolygu’n flynyddol becyn hyfforddiant i staff yr Adran addysg.
•Paratoi ac adolygu yn flynyddol becyn hyfforddiant i berson/nau ddynodedig, Pennaeth, a pherson dynodedig pob Corff Llywodraethol gan ei addasu a’i gadw’n gyfredol mewn cylch tair blynedd.
•Paratoi ac adolygu’n flynyddol becyn hyfforddiant gloywi er mwyn i’r person/nau ddynodedig ei gyflwyno i weddill staff yr Ysgol yn flynyddol.
•Yn unol â chanllawiau gwirio addasrwydd yr hyfforddiant yn flynyddol drwy’r Bwrdd Diogelu.
•Datblygu dulliau cyflwyno hyfforddiant yn barhaus er mwyn cyfarch anghenion y defnyddwyr wrth sicrhau ansawdd y cynnwys.
Arwain ar a chyfrannu at Hyfforddiant Arall
•Datblygu hyfforddiant o’r newydd yn sgil blaenoriaeth lleol neu genedalethol.
•Gweithio gyda’r adran Dysgu a Datblygu ac asiantaethau allanol, lle’n briodol, i gynllunio a chyflwyno hyfforddiant amrywiol sydd yn gysylltiedig a’r maes diogelu plant mewn addysg / lleisiant plant neu gynnydd grwpiau o blant.
•Datblygu pecynnau newydd i gefnogi ysgolion / darprwyr yn y maes diogelu plant yn ol y gofyn.
Arwain y gwaith a chyfrannu at Gofnodi Hyfforddiant
•Cadw cofnod o’r holl unigolion sydd wedi derbyn hyfforddiant amddiffyn plant gan nodi’n benodol fanylion yr hyfforddai a’r dyddiad.
•Gwirio fod pob Ysgol /darparwr yn cadw cofrestr hyfforddiant gyfredol o holl staff.
•Gwirio fod gwasanaethau’r Adran Addysg yn cadw cofrestr hyfforddiant gyfredol ar gyfer staff lle’n briodol.
•Sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o’r holl unigolion sydd wedi derbyn hyfforddiant arall gan nodi’n benodol fanylion yr hyfforddai a’r dyddiad.
Arwain a chyfrannu at waith adolygiad ymarfer plant gan sicrhau fod yr Adran yn chwarae rhan lawn yn y broses ac yn dysgu unrhyw wersi.
Arwain ar y gwaith o adolygu unrhyw weithdrefnau neu hyfforddiant mewn ymateb i adolygiadau ymarfer plant (child practice reviews).
Arwain ar sicrhau fod gan yr Adran ac Ysgolion Gwynedd bolisiau a gweithdrefnau cyfredol ac addas.
Arwain y gwaith o Ddatblygu ac Adolygu Polisïau a Gweithdrefnau
•Paratoi ac adolygu’n flynyddol becyn o bolisïau a gweithdrefnau enghreifftiol ar bob agwedd o ddiogelu plant.
•Sicrhau fod pob polisi a gweithdrefn enghreifftiol yn cyd fynd ac arweiniad cenedlaethol a’r Bwrdd Diogelu Lleol.
•Sicrhau fod pob Ysgol yn derbyn copïau cyfredol o’r ddogfennaeth ddiweddaraf yn flynyddol.
•Sicrhau fod ysgolion Gwynedd yn gweithredu eu polisi Diogelu Plant.
•Adolygu a pharatoi o’r newydd lle bo’r angen Bolisïau a Gweithdrefnau yn ymwneud â materion allweddol a allai fod yn berthnasol i amddiffyn plant megis;
•iechyd a diogelwch, ataliaeth/ffrwyno, bwlio;
•tripiau ysgol, cludo disgyblion, ymweliadau preswyl, ymweliadau cyfnewid rhwng ysgolion;
•cyflogi plant, profiad gwaith;
•tynnu lluniau a defnyddio lluniau o blant;
•disgyblion heb le mewn ysgol;
•cawodydd a threfniadau newid;
•rhieni a helpwyr gwirfoddol eraill;
•cymorth cyntaf a gweinyddu meddyginiaethau;
•trefniadau ar gyfer clybiau ar ôl ysgol;
•defnyddio’r rhyngrwyd;
•plant gyda rhieni/gofalwyr sy’n dioddef o salwch meddwl neu anabledd;
•plant gyda rhieni/gofalwyr sy’n camddefnyddio cyffuriau neu sylweddau; a
•phlant mewn ysgolion preswyl y tu allan i’r awdurdod lleol.
Arwain ar y gwaith o adolygu unrhyw bolisiau mewn ymateb i adolygiadau ymarfer plant (child practice reviews).
Arwain ar sicrhau fod yr Adran yn diogelu plant sydd allan o addysg prif lif yn unol â’r canllawiau.
•Diogelu a hybu lles plant sydd heb gael lle mewn ysgol, neu sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol, gan gynnwys rhai sy’n cael eu dysgu mewn unedau cyfeirio disgyblion neu gan y gwasanaeth tiwtoriaid cartref.
•O ran plant sy’n cael eu dysgu gartref gan rieni neu ofalwyr, meithrin perthynas effeithiol gyda’r sawl sy’n addysgu gartref i ddiogelu budd addysgol a lles plant a phobl ifanc.
•Cyfrannu at waith aml asiantaeth er mwyn lleihau’r nifer o ddysgwyr sydd allan o addysg prif lif.
Arwain ar y gwaith o sicrhau fod yr Adran yn ymateb yn gywir ac yn amserol i honiadau yn erbyn staff ysgolion a darpariaethau addysg Gwynedd.
•Dilyn trefn gytunedig i ymateb i honiadau.
•Cynrychioli’r Adran a chynnig arweniad mewn cyfarfodydd Rhan 5.
•Cynghori a chynnal Cadeiryddion Llywodraethwyr sydd yn delio a honiadau yn erbyn Penaethiaid.
•Gweithredu yr hyn a ddisgwylir o ganlyniad i ymholiadau gan y tîm derbyn.
•Gweithredu yr hyn a ddisgwylir o gyfarfodydd Rhan 5.
Arwain ar y gwaith o sicrhau mewnbwn yr Adran Addysg i faterion strategol.
•Cynrychioli’r Adran a chynnig arweniad mewn cyfarfodydd cenedlaethol, rhanbarthol, ar lefel awdurdod ac mewn is grwpiau perthnasol gan gynnwys y Bwrdd Diogelu.
•Cyflwyno adborth rheoliadd o’r cyfarfodydd i sylw’r Pennaeth Addysg.
•Cynrychioli a chyfrannu’n llawn mewn adolygiadau ymarfer plant (child practice reviews).
Arwain ar y gwaith o sicrhau fod yr Adran Addysg ac Ysgolion Gwynedd yn cydymffurfio a chanllawiau sydd wedi ei mabwysiadu.
Arwain ar faterion Gwirio Ansawdd
•Sicrhau fod pob Ysgol yn cyflwyno gwybodaeth benodol a’r y maes diogleu plant yn flynyddol i sylw’r Corff Llywodraethol a’r Adran Addysg.
•Paratoi adroddiad blynyddol i sylw’r Tim Rheoli addysg ar gynnwys yr adroddiadau blynyddol.
•Sicrhau fod pob ysgol yn derbyn ymweliad gwirio ansawdd blynyddol er mwyn gwirio ansawdd eu trefniadau diogelu.
•Paratoi adroddiad blynyddol yn crynhoi ganfyddiadau’r ymweliadau gwirio ansawdd.
•Cyfeirio pryderon am ddiffyg gweithredu i sylw’r Tim Rheoli Addysg.
Cefnogi swyddogion y Gwasanaeth i sicrhau cyngor a chefnogaeth briodol i ysgolion ac i staff yr Adran Addysg.
•Darparu cyngor a chefnogaeth i ysgolion, ac i uwch staff dynodedig ar ddelio ag achosion unigol.
•Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth o ran:
•gwaith achos, ymddangos yn y Llys, materion cyfreithiol;
•deddfwriaeth newydd;
•rheoli adroddiadau am ddisgyblion sydd ar goll;
•honiadau yn erbyn staff/Llywodraethwyr.
•amgylchiadau penodol cam-drin, e.e. llurgunio’r organau cenhedlu mewn merched, hunan-niweidio, gorfodi i briodi, salwch ffug neu wedi’i gymell, trais yn y cartref, cam-drin plentyn gan blentyn arall, cam-fanteisio rhywiol, a mudwyr ifanc.
•Cynghori, monitro ac adrodd ar unrhyw bryder parthed trefniadau recriwtio diogel gan gynnwys Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.
Arwain y gwaith a chefnogi swyddogion i sicrhau fod yr Adran Addysg ac Ysgolion Gwynedd yn cyd weithio’n effeithiol gydag asiantaethau allweddol.
•Gweithredu ar ran ysgolion lle bo’r angen i ddatrys unrhyw anawsterau gydag asiantaethau partner i gael y cymorth priodol ganddynt.
•Annog a meithrin dealltwriaeth a pherthynas weithio dda gyda gweithwyr cymdeithasol plant a staff mewn asiantaethau eraill sy’n ymwneud â diogelu plant.
•Datblygu trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.
Cyfrifoldeb dros Arwain Ansawdd Darpariaeth Addysg i Blant o Grwpiau Bregus
•Adnabod, goruchwylio a monitro cynnydd disgyblion o grwpiau bregus.
•Gweithredu fel swyddog cyfrifol arweiniol dros sicrhau bod trefniadau ar waith i wella profiadau a deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yr awdurdod, gan gynnwys y rhai a leolir y tu allan i'r sir.
•Cefnogi ysgolion i gynllunio’n strategol i wella canlyniadau cyffredinol disgyblion o grwpiau bregus.
•Dylanwadu ar benaethiaid a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg a gwaith cymdeithasol a chydweithio â hwy i gynrychioli buddiannau disgyblion o grwpiau bregus.
•Cyfrannu at waith tîm amlddisgyblaethol.
•Ymyrryd yn uniongyrchol mewn achosion penodol.
Adrodd ar y deilliannau a ganlyn yn rheolaidd:
•Cynnydd addysgol plant sy'n derbyn gofal
•Presenoldeb
•Ymddygiad a gwaharddiadau
•Anghenion lles a chymdeithasol plant o grwpiau bregus gan sicrhau eu bod yn cael eu diwallu
•Effeithiolrwydd ymyriadau
•Arfer dda yn lleol ac yn genedlaethol
•Cymorth ac adnoddau sydd eu hangen i gefnogi cynnydd plant
•Monitro deilliannau hirdymor plant bregus a gyrru’r broses o’u gwella
Cynnig cefnogaeth a gosod her broffesiynol i arweinyddiaeth a rheolaeth ysgol, trwy:
•Cefnogi a gosod her i ysgol wella’r arfer o hunan-arfarnu effeithiol a chynllunio gwella ysgol yn enwedig yn y maes cefnogi grwpiau bregus penodol.
•Dadansoddi a defnyddio data i farnu perfformiad a herio’r ysgol i osod targedau uchelgeisiol ond realistig.
•Rhoi adborth positif y gellir seilio gwelliannau i’r dyfodol arno.
Cynnig cefnogaeth a gosod her broffesiynol i ddysgu ac Addysgu yn y Dosbarth (Addysgeg), trwy:
•Roi cefnogaeth a chyngor ar ddulliau dysgu, addysgu a sgiliau, ac ar arfarnu ansawdd y dysgu a’r addysgu yn enwedig yn y maes cefnogi grwpiau o ddysgwyr bregus penodol.
•Nodi arferion dysgu ac addysgu effeithiol y gellir eu cyd-rannu o fewn, ac ar draws rhwydweithiau.
Cynnig cefnogaeth a gosod her broffesiynol i gydlynu Cefnogaeth Gwricwlwm, trwy:
•Cyfrannu tuag at ddatrys materion penodol sy’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â phwnc/cwricwlwm.
•Arfarnu effeithiolrwydd DPP ac effaith rhwydweithiau ar arfer broffesiynol.
•Cefnogi Datblygiad Agweddau Disgyblion, trwy roi arweiniad ar hyrwyddo ethos cynhwysol a rhoi cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i blant a phobl ifanc elwa o gysylltiadau ag asiantaethau eraill.
•Hyrwyddo Atebolrwydd Mewnol, trwy ddarparu canllawiau, cefnogaeth ac arfarnu trwy ddatblygu meini prawf sy’n ysgogi gweithdrefnau ymyrraeth o fewn yr ysgol gyfan, adrannau ac yn y dosbarth.
•Hyrwyddo cydweithio ffurfiol rhwng ysgolion er mwyn gweithredu arfer dda a rhagorol trwy hyrwyddo’r cysyniad o sefydliad sydd yn dysgu.
•Adnabod arfer dda a rhagorol i’w rhannu ar draws ysgolion.
Grantiau
•Sicrhau arweiniad i ysgolion ar sut i gyfarfod a gofynion amlygi’r mewn grantiau cenedlaethol neu leol.
•Sicrhau fod y drefn o adrodd ar gynnydd yn erbyn grantiau yn effeithiol.
•Monitro defnydd ysgolion Gwynedd gan sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn arwain at gynnydd.
Arwain ar y gwaith o sicrhau fod y gwasanaeth yn rhan o broses o welliant parhaus.
•Llunio cynllun busnes blynyddol fydd yn amlygu blaenoriaethau gwella.
•Monitro cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau’n unol a’r gofyn.
•Cyflwyno adroddiadau herio perfformiad yn ol y galw.
Cyffredinol
•Mynychu hyfforddiant ac ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol.
•Cyfrannu at weithgareddau gwerthuso ansawdd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.