ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL ARDUDWY, HARLECH
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 334 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 03 MAWRTH, 2025 neu cyn gynted a phosib wedi hynny.
ATHRO/ ATHRAWES CYMRAEG (Cyfnod Mamolaeth)
Swydd dros dro yw hwn yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr Ysgol. Daw’r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i’w gwaith.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person ymroddgar a brwdfrydig i addysgu Cymraeg i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4, gyda’r gallu i addsygu ail bwnc.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a’r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mrs. Angela Walters, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 15 IONAWR 2025
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.