Pwrpas y Swydd
1. Arwain y Rhaglen Ynni Carbon Isel gan gynnwys dylunio, negodi a chynllunio;
2. Rheoli, cydlynnu a gweithredu'r rhaglen Ynni Carbon Isel;
3. Datblygu, negodi a chytuno'r achosion busnes ar gyfer yr holl brosiectau o fewn sgôp y rhaglen(ni);
4. Trosolwg o weithredu’r prosiectau ar draws y rhaglen gan gynnwys dyluniad a chynllunio, gweithredu a chasgliadau'r prosiectau unigol;
5. Cyflawni deilliannau a thargedau'r prosiectau unigol a'r rhaglen gronnus ar amser ac o fewn yr adnoddau sydd wedi'u neilltuo;
6. Cydlynu, cynllunio a gweithredu rhaglenni ar y cyd a rhyngddibynnol o fewn y Cynllun Twf a’r Weledigaeth gan gynnwys rheoli risg a gwireddu buddion;
7. Cyfrannu at weithredu'r Weledigaeth Twf ranbarthol, y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Ranbarthol gan gynnwys Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol.
Cyfridoldeb am swyddogaethau (e.e. staff, cyllidebau, offer)
• Rheoli cyllideb y rhaglen o hyd at £100m, monitro’r gwariant a’r costau yn erbyn y buddion a ddarparwyd a’r buddion a wireddwyd wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.
• Bod yn rheolwr llinell ar hyd at 5 aelod o staff
• Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol
Prif Ddyletswyddau
Rheoli Rhaglenni
• Cynnal a gwella systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i safon diwydiant;
• Goruchwylio materion dylunio, negodi, cytuno a chynllunio o fewn y rhaglen;
• Cydlynu a gweithredu’r rhaglen Ynni Carbon Isel;
• Cydlynu a rheoli ar y cyd y rhyng-ddibyniaethau ar draws rhaglenni a phrosiectau gan gynnwys rheoli risg a gwireddu buddion.
Rheoli Prosiectau
• Cynnal a gwella systemau a disgyblaethau rheoli prosiect i safon diwydiant;
• Goruchwylio prosiectau lluosog trwy ddylunio a chwblhau achosion busnes gan gynnwys negodi a chytuno gyda noddwyr prosiectau;
• Goruchwylio cyflawni a gweithredu prosiectau lluosog o fewn y rhaglen;
• Sicrhau ansawdd yr holl waith prosiect.
Llywodraethu Rhaglenni a Chontractau
• creu a rheoli cerbydau cyflawni newydd fel sydd angen
• negodi a rheoli contractau
Rheoli Adnoddau
• rheoli cyllidebau a grantiau rhaglenni refeniw a chyfalaf
• cyflawni unrhyw dargedau incwm a masnachol sydd wedi'u gosod
Rheoli Perfformiad
• rheoli perfformiad ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau rhaglenni a phrosiectau
• rheoli risg ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau rhaglenni a phrosiectau
• rheoli timau a phobl - cefnogi a datblygu adroddiadau uniongyrchol i lwyddo yn eu rolau a chefnogi datblygiad ehangach y tîm fel rhan o’r tîm rheoli.
Adrodd ac Atebolrwydd
• Adrodd ar gynllunio a rheoli rhaglenni, prosiectau ac adnoddau ar lefel Bwrdd ac i'r Llywodraethau, y partneriaid a'r rhanddeiliaid sy'n ariannu;
• Sicrhau ansawdd yr holl adroddiadau data a pherfformiad;
• Gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol y mae ymddiriedaeth ynddo/ynddi.
Llysgenhadol
• Gweithredu fel lladmerydd ar gyfer partneriaeth Uchelgais Gogledd Cymru, y Cynllun Twf a’r rhanbarth;
• Datblygu, rheoli a chynnal perthnasau allanol effeithiol ar bob lefel;
• Rrheoli cyfathrebu allanol a chysylltiadau cyhoeddus.
Strategol
• Strategaeth hir-dymor ar y cyd - datblygu a chynllunio.
Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
• Gweithio i'r holl bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u gosod a'r gyfraith e.e. adnoddau dynol, ariannol, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch;
• Arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol.
Ynni
• Trosolwg o gyflawni Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ynni Rhanbarthol a’r Cynlluniau Ynni Ardal Lleol mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru;
• Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am gyflawni’r rhaglen Ynni Carbon Isel o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan sicrhau fod y prosiectau yn cyflawni ei targedau;
• Arwain ar negodi gyda noddwyr prosiect, buddsoddwyr a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan ddarparu'r wybodaeth a'r arbenigedd angenrheidiol i gefnogi'r achos busnes i fuddsoddi mewn prosiectau;
• Sefydlu partneriaethau cryf gyda chanolbwyntiau a rhaglenni trawsffiniol i gefnogi nodau strategol yn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac ymelwa ar gyfleoedd cyd-fuddsoddi.
• Arwain a rheoli y tîm rhaglen Ynni Carbon Isel a’r Tîm Ynni Strategol a fydd yn cefnogi cyflawni’r canlyniadau a’r buddion sy’n gysylltiedig â’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith;
• Rheoli gwaith ynni Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gynnwys darparu cefnogaeth ac arweiniad i uwch aelodau a swyddogion er mwyn llywio penderfyniadau;
• Gweithio gyda datblygwyr prosiectau, grwpiau cymunedol, darparwyr ynni a chyflenwyr rhwydwaith a phartneriaid eraill i sicrhau bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar y chwyldro ynni, mentrau sero net a datgarboneiddio a chyfleoedd ariannu.