Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Helpu yr unigolyn i fyw eu bywyd fel mae’n dymuno ei fyw.
• Cymeryd rol llawn gofal o’r cartref.
• Cyd weithio gyda asiantaethau eraill, er lles yr unigolion, yn cynnwys mynychu adolygiadau, cyfarfdoydd gyda iechyd, ymgynghoir gyda’r arbennigwyr,
• Dosbarthu meddyginiaeth
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion e.e meddyginiaeth ac arian.
• Gwneud defnydd priodol o offer arbennigol sy’n helpu yr unigolyn fyw eu bywyd yn ol eu dymuniadau ac amcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ol yr angen.
Prif Ddyletswyddau.
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
• Rôl – llawn gofal o’r cartref os yn briodol
• Cymeryd cyfrifoldeb am y cartref a’r rôl person cyfrifol.
• Arwain y staff gyda’i dyletswyddau gwaith.
• Gwneud penderfyniadau yn absenoldeb y rheolwyr , ee derbyn mynediadau o’r yn nol o’r ysbytai, arwain mewn argyfwng, ymateb i ymholiadau.
• Ymateb ac arwain sefyllfa argyfwng yn ymwneud a’r defnyddwyr a’r adeilad
• Adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant unigolion ac ymateb yn sydyn ac yn briodol iddynt.
• Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tim ehangach a phroffesiynau eraill.
Dyletswyddau Gweithiwr Gofal
• Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
• Bod yn arloesol a chreadigol wrth roi gofal mewn ffordd sy'n cynnwys pobl yn llawn, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnwys pobl yn y gweithgareddau symlaf hyd yn oed ac sy'n galluogi neu'n ail-alluogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain.
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth gan fynychu cyfarfodydd a chyfrannu ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Cynnal a chefnogi gyda’r drefn o weinyddu a dosbarthu meddiginaeth yn unol a pholisi’r gwasanaeth.
• Hyrwyddo hawliau'r unigolyn, ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
• Dilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth. Gall hyn olygu gweithredu dulliau fel Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support),
• Datblygu a dilyn cynllunniau gofal personol sy’n cael ei greu mewn partneriaeth â’r unigolyn i’w hyrwyddo a’i annog i fyw ei fywyd mor llawn â phosibl trwy wneud defnydd o unrhyw adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned.
• Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion defnyddiwr y gwasanaeth. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymeryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyrraethau penodol.
• Annog a chefnogi defnyddwyr y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau er mwyn eu galluogi i fyw yn llwyddiannus oddi mewn eu cymuned, trwy osod amcanion, datrus problemau a dysgu sut i adnabod pryd mae newid mewn amgylchiadau ac anghenion yn newid.
• Profi ffyrdd newydd o gefnogi a meddwl y tu allan i’r bocs am atebion creadigol sy’n tynnu ar gryfderau, asedau a rhwydweithiau anffurfiol yr unigolyn
• Cyfrannu mewn sgyrsiau aml ddisgyblaethol am ganlyniadau llesiant personol pobl a ffyrdd y gellir eu cefnogi i’w cyflawni, gan eu helpu i helpu eu hunain a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael yn y maes hwnnw.
• Gweithio gyda phobl i helpu a nodi rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio gwybodaeth i drafod gyda’r tîm ehangach, rhoi newid ar waith a dysgu o brofiad.
• Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith gweinyddol sy’n berthnasol i’r rôl gan gynnwys cofnodi ac adrodd yn unol â’r canllawiau a osodir gan y Rheolwr ar ran Cyngor Gwynedd.
• Cefnogi gyda dyletswyddau cadw Tŷ, pharatoi prydau ysgafn
• Gweithredu a chynnal systemau IT
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Gweithio mewn partneriaeth â chydweithywr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsus seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi, meddygon teulu a phartnertiad 3ydd sector.
• Gweithredu ar gyfleoedd i adeiladu bywydau sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau teuluol a chymunedol a bod yn glir ynghylch yr hyn y maent yno i helpu’r person i’w gyflawni.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Ymrwymo i ddilyn ei raglen hyfforddi ei hun yn unol â'r Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaol.
• Bod â meddylfryd sy’n agored i ddysgu yn barhaus ac awydd i ddatblygu yn broffesiynol oddi fewn y maes iechyd a gofal.
• Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol megis goruchwyliaeth a chyfarfodydd tim sy’n cefnogi meddylfryd a wella a datblygu y gwasanaeth a llesiant staff.
• Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru gan ymddwyn mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â’r cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol
DIOGELU
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
POLISÏAU
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cydymffurfio'n llawn â Chod Ymarfer Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd, gan gynnwys gweinyddu meddyginiaeth.
ARALL
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio
• Angen gweithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Gall hyn gynnwys gŵyl y banc a phenwythnosau yn ôl yr angen.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw’n angenrheidiol.