ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG
(Cyfun 11 - 16; 335 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 28 o EBRILL 2025
PENNAETH ADRAN CYMRAEG CA3 a 4
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Yn dilyn dyrchafiad deilydd presesnnol y swydd oddi-mewn i’r Ysgol, ‘rydym yn chwilio am Bennaeth Adran Cymraeg erbyn Ebrill 2025
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) ynghyd a lwfans CAD2 (£5,747) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i pholisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-
pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD GWENER, 17 IONAWR, 2025.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.