Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi ag annog defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol â phosibl drwy gynorthwyo’r unigolyn eu teuluoedd a’u gofalwyr gyda thasgau nad ydynt yn gallu ymdopi gyda neu yn ei chael hi’n anodd gwneud ar ben eu hunain.
•Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr gwasanaethyn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr.
•Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisïau Cyngor Gwynedd yn ogystal â chydymffurfio a Safonau a’r Rheoliadau Cenedlaethol perthnaso Deddf Gofal 2000.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Parchu a defnyddio'n briodol unrhyw offer a chyfarpar sydd at ddefnydd y gwasanaeth.
•Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i’ch Rheolwr Llinell a/neu'r person sydd â chyfrifoldeb am yr offer o unrhyw ddiffyg ynddo, neu o ddiffyg yn y gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb
•Sicrhau rheolaeth briodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau
•I sicrhau a pharchu urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol â Pholisi Cyngor Gwynedd a Safonau a Rheoliadau Cenedlaethol Deddf Gofal 2000
•I ddarparu cefnogaeth a chyflawni tasgau penodol yn unol Chynllun Gofal yr unigolyn e.e. gofal personol
•I fod yn sensitif i'r angen apbarchu hawliau, credoau a dewisiadau yr unigolyn ar bob achlysur.
•I ymddwyn yn broffesiynol ar bob achlysur yn ogystal â chydymffurfio ‘a’r cod gwisg briodol
•I gyfathrebu yn effeithiol gyda’r defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, staff ac asiantaethau eraill wrth barchu cyfrinachedd bob amser.
•I fod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
•I weithredu os yn berthnasol fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
•I gofnodi a rhoi gwybodaeth mewn dogfennau yn ffeiliau’r defnyddiwr gwasanaeth ar sail ddyddiol.
•I ymgymryd â dyletswyddau glanhau a londri.
•I baratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
•I gydymffurfio yn llawn gyda Chod Meddigyniaeth Cyngor Gwynedd.
•I ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddiant yn unol ar Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
•I gymhwyso i safon QCF 2/neu gyfatebol oddi fewn i amserlen benodol.
•I fynychu cyfarfodydd yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Llinell
•I fynychu sesiynau Goruchwylio a gwerthusiad staff
•I ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau’r Cyngor ynglŷn ag arferion da. .
•I gydymffurfio gyda holl bolisïau iechyd a diogelwch yr adran. Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb am ofalu am ei iechyd ei hun a iechyd y diogelwch eraill.
•I ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i’r swydd yn ôl eich Rheolwr Llinell ag sydd er lles a datblygiad defnyddwyr Gwasanaeth
•I gofrestru â Chyngor Gofal Cymru yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•I gydymffurfio gyda gofynion polisi a chanllawiau Amddiffyn Oedolion Bregus Cymru.
•I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio a Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen i weithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Bydd hyn yn golygu penwythnosau gwyliau banc fel bo angen.
•Ymdrin ag arian personol unigolion yn unol â chynllun gofal neu ganllawiau trafodion ariannol Cyngor Gwynedd
•Ar adegau mae’ bosibl y bydd angen i ddeilydd y swydd ymgymryd â dyletswyddau cysgu i mewn
•Ymgymryd â dyletswyddau gall eich Rheolwr llinell eu dirprwyo i chwi.
•Mae’r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a phrif elfennau’r swydd. Mae’n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau’r swydd fel mae’n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl-gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o’r cytundeb cyflogaeth.