ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Ionawr, 2025 neu cyn gynted a phosib wedi hynny.
ATHRO/ AWES CYMRAEG A CHYDLYNYDD LLYTHRENNEDD
Parhaol / Llawn Amser
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster. Bydd CAD 2A (£8,426) yn ychwanegol.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i’w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams.syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD IAU, 12 O RAGFYR, 2024.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(The above is an advertisement for the post of a permanent Welsh Teacher at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.