Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Arwain tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyllid a chyfrifeg i Adran o’r Cyngor yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adran i gyflawni ei nod a’i amcanion.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli un Cymhorthydd Cyfrifeg o ddydd i ddydd a chyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd.
Prif ddyletswyddau
•Disgwylir i’r deilydd arwain y Tîm sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol i Adran o’r Cyngor fel a ganlyn :
•Sicrhau y cyflawnir y targedau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chymryd camau i gywiro unrhyw lithriad neu ostyngiad mewn ansawdd.
•Gweithredu fel rheolwr llinell i’r staff cyllid sy’n gweithredu ynglyn â chyllidebau’r Adran berthnasol ac annog y staff i weithio i’w llawn botensial, gan fesur perfformiad yn erbyn targedau.
•Sicrhau fod gofynion y Pennaeth Adran a’r rheolwyr yn cael eu cyflawni yn unol âg unrhyw ofynion â osodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth.
•Cyflawni gwaith ar gyllidebau a chyfrifon yr Adran berthnasol, sy’n cydymffurfio gyda safonau proffesiynol priodol, gyda chyfarwyddiadau’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid ac yn unol ag unrhyw bolisïau corfforaethol perthnasol.
•Paratoi cyllidebau a chyfrifon terfynol yr Adran dan sylw, yn unol â chanllawiau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid.
•Cyflawni swyddogaethau cyllidebol sy’n arbennig i feysydd yr Adran dan sylw, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol, a chymryd cyfrifoldeb personol am gyllidebau cymhleth lle mae angen mewnbwn lefel uchel.
•Monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran dan syw gan baratoi adroddiadau fel bo’n berthnasol ar gyfer y Pennaeth Adran a’r rheolwyr, y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a/neu’r Pennaeth Cyllid.
•Sefydlu ac adolygu systemau casglu gwybodaeth ariannol, gan ymgynghori gyda’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr lle bo’r angen er mwyn sicrhau y gellir ymarfer rheolaeth gyllidol gadarn.
•Sicrhau fod ceisiadau grant cywir yn cael eu cyflwyno ar amser i gyrff allanol a bod trefniadau monitro grantiau priodol yn bodoli.
•Cynorthwyo’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i ystyried unrhyw ddatblygiadau cyfrifyddol ym maes y gwasanaethau dan sylw, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i gydymffurfio â hwynt drwy gadw’n ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol.
•Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau, gweithgorau neu paneli perthnasol yn ôl gofynion y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu strategaeth ariannol yr Adran dan sylw.
•Darparu cyngor, gwybodaeth neu adroddiadau ariannol i’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr fel bo’r angen.
•Darparu ac adolygu ystadegau y gwasanaethau perthnasol yn unol â gofynion statudol a safonau cyfrifeg cydnabyddiedig.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn achlysurol.