Pwrpas y Swydd.
• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle’r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif Ddyletswyddau. .
• Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.
• Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu .
• Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.
• Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.
• Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.
• Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.
• Bydd hefyd, pan fo’r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o’r ysgol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-