NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd cadarnhaol tuag at unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, plant, theuluoedd a chydweithwyr
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda’r gallu i greu perthynas a ddelio â phobl mewn modd sensitif a chwrtais.
Hyblyg, dibynadwy ac yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac yn unol a chyfarwyddyd y Rheolwr Tim
Arddangos ymrwymiad a brwdfrydedd mewn perthynas a chyflawni deilliannau
Meddu ar y gallu i flaenoriaethu a chwblhau tasgau gan gwrdd â therfynau amser penodol.
Ymrwymiad i werthoedd, egwyddorion, nôd ac amcanion y Gwasanaethau Cymdeithasol a chod ymarfer proffesiynol.
Dealltwriaeth o ymarfer gwrth ormesol.
Gallu bod yn greadigol wrth weithio efo ungolion, plant a theuluoedd
Gallu weithio dan bwysau
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon addysg dda i lefel TGAU neu uwch i gynnwys Cymraeg a Saesneg.
Cymhwyster lefel 3/4 addas mewn asesu neu gymhwyster uwch/cyffelyb mewn gofal/gwaith plant.
Y cymhwyster cyfredol derbyniol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yw ‘Tystysgrif AU y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K101/102 & KZW113). Rhaid felly bod yn fodlon ac yn meddu’r gallu i gyflawni’r cymhwyster fel amod o dderbyn y swydd oni bai eich bod yn ei feddu (neu gymhwyster uwch perthnasol) yn barod.
Yn meddu ar gymhwyster neu yn cytuno i gwblhau hyfforddiant lefel 3 & 4 ‘Trusted Assessor’ ar gyfer asesu am offer ac addasiadau bach a canolig fel amod o dderbyn y swydd (Oedolion)
DYMUNOL
Cymhwyster TG
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio o fewn y sector gofal oedolion neu plant a phobl ifanc (swydd plant/oedolion) a dealltwriaeth o’r gwasanaethau cymdeithasol statudol.
Profiad o ddelio’n effeithiol a phositif gyda’r cyhoedd ac asiantaethau tu allan i’r Cyngor.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i wrando, trafod ac adnabod gwybodaeth / problemau yn ystyrlon gydag unigolion sydd efallai mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
Gallu i ddadansoddi gwybodaeth ac ymateb mewn modd priodol gan ddilyn protocolau a dull gweithredu’r gwasanaeth.
Sgiliau cyfrifiadurol – yn gallu defnyddio systemau Microsoft Word ac Outlook.
Gallu i weithredu gan sicrhau diogelwch data a chyfrinachedd.
Gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag anableddau, afiechydon a chyflyrau cronig mwyaf cyffredin (e.e. strôc) neu datblygiad plentyn (swydd plant/oedolion)
Gwybodaeth ynglŷn â chefnogaeth sydd ar gael o fewn y gymuned i helpu pobl parhau i fwy mor annibynnol â phosib e.e. cefnogaeth i ofalwyr neu berson hŷn bregus sydd newydd adael yr ysbyty neu 3ydd sector cefnogaeth yn y maes plant
Trwydded yrru gyfredol lân
Gallu paratoi adroddiadau eglur a cywir yn Gymraeg a Saesneg
Profiad a dealltwriaeth o weithio o fewn ddeddfwriaeth yn ymwneud a gofal cymdeithasol.
DYMUNOL
Gallu i gwblhau asesiadau gofal cymdeithasol cychwynnol a chofnodi gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.