NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio o fewn amserlen dynn ac ymateb i gyfarwyddiadau yn drwyadl ac amserol. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar liwt ei hun fel bo’r gofyn. Ymroddiad a brwdfrydedd i leihau ôl troed carbon y Cyngor.
DYMUNOL
Profiad o reoli ymgynghorwyr a chontractwyr
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu profiad perthnasol i’r swydd
DYMUNOL
Gradd neu gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn y maes rheolaeth a chadwraeth ynni. Aelodaeth o gyrff proffesiynol yn y maes Cadwraeth Ynni e.e. CIBSE
HNC neu gymhwyster cymharol mewn maes yn ymwneud a chadwraeth ynni, eiddo neu adeiladwaith
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o greu adroddiadau cadwraeth ynni
Profiad o fonitro defnydd ynni mewn adeiladau masnachol
Profiad helaeth ar sustemau cyfrifiadurol dadansoddiadol
DYMUNOL
Paratoi argymhellion a pharatoi cynlluniau er arbed defnydd ynni
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Profiad o weithio ar sustemau cyfrifiadurol i greu adroddiadau a taenlenni e.e. MS Office Excel a Word.
Profiad o ddefnyddio systemau basdata.
DYMUNOL
Gwybodaeth am systemau a thechnoleg monitro defnydd ynni mewn adeiladau e.e Systems Link
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.